Search

Ymweliad AS lleol â llety cŵn Millin Brook

Yn ddiweddar, bu’r Aelod o’r Senedd, Paul Davies, yn ymweld â llety cŵn moethus ger Hwlffordd. Treuliodd Mr Davies amser yn llety Millin Brook Luxury Dog Boarding Kennels, sy’n cynnig profiadau gwyliau wedi’u teilwra i gŵn.

Aelod lleol o'r Senedd yn ymweld â Dragon LNG

Mae’r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi ymweld â Dragon LNG yn ddiweddar, un o'r terfynellau mewnforio Nwy Naturiol Hylifedig yn Aberdaugleddau i gyfarfod â'r Rheolwr Gyfarwyddwr Simon Ames a chlywed mwy am gynlluniau'r derfynfa i sicrhau sero-net erbyn 2029.

Paul Davies yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd

Mae ymgyrch fyd-eang i helpu i gynyddu dealltwriaeth a derbyn pobl ag awtistiaeth wedi ei chefnogi gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies. Mae Mr Davies yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, a gynhelir rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2023 a'r thema eleni yw lliw.

Gwleidyddion Sir Benfro yn gwledda ar Frecwast Ffermdy

Ymunodd Aelodau o’r Senedd dros Sir Benfro, Paul Davies a Samuel Kurtz, â ffermwyr lleol a chynrychiolwyr ffermio ar gyfer brecwast i ddathlu Wythnos Frecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) 2023.

Paul Davies AS yn ymweld â POINT yn Abergwaun

Mae’r Aelod Seneddol dros Preseli Sir Benfro, Paul Davies wedi gweld effaith y gwaith a ariannwyd trwy’r Loteri Genedlaethol i gefnogi gweithgareddau plant a phobl ifanc yn ei etholaeth

Gwleidyddion Sir Benfro yn galw am 'ddiogelu a hyrwyddo' ynni Sir Benfro

Mae'r ddau Aelod o’r Senedd dros Sir Benfro wedi galw ar Lywodraeth Cymru i 'ddiogelu a hyrwyddo' diwydiant ynni Dyfrffordd y Ddau Gleddau.

Bu Paul Davies AS a Samuel Kurtz AS yn siarad o blaid dyfodol y diwydiant gwerth miliynau o bunnau, yn ystod cyfarfod llawn yn y Senedd.