Yn ddiweddar, cyfarfu'r Aelod o'r Senedd Paul Davies â Wales and West Utilities i glywed mwy am rai o'u prosiectau sy'n cael eu cynllunio ac sydd eisoes ar y gweill i gefnogi'r newid i Sero-Net yng Nghymru.
Mae Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru wedi dod yn rhan annatod o'r calendr yn Sir Benfro, ac ymunodd yr Aelodau o'r Senedd Paul Davies a Samuel Kurtz â'r gymuned ffermio leol i ddathlu'r gorau o gynnyrch lleol, gan godi arian i elusen.
Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, yn cefnogi ymgyrch Diwrnod Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy (LSCT) i wella cyfraddau goroesi gwael pobl sy'n cael diagnosis o ganserau'r ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas neu'r stumog.
Yn ddiweddar, ymwelodd Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, â Derw Glass, gwneuthurwr gwydr a chynhyrchydd sydd wedi'i leoli ger Blaenffos, Gogledd Sir Benfro.
Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi beirniadu cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer gwasanaethau pediatrig yn y Gorllewin, gan y bydd yn arwain at gau'r Uned Gofal Dydd Pediatreg (PACU) yn barhaol yn Ysbyty Llwynhelyg.
Mae'r Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, wedi arwain dadl yn y Senedd ar bwysigrwydd busnesau bach. Cyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 2 Rhagfyr, roedd Mr Davies yn awyddus i annog Aelodau o'r Senedd i ddangos eu cefnogaeth i fusnesau bach.
Mae’r bwriad i ddiwygio gwyliau ysgol yng Nghymru yn destun pryder i’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies AS. Gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru olygu cwtogi wythnos ar wyliau haf ysgolion ac ymestyn gwyliau hanner tymor mis Hydref o wythnos i bythefnos.
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, ddigwyddiad briffio mewn partneriaeth â Dirnad Economi Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn y Senedd.
Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi galw am weithredu brys ar ystadegau brawychus sy'n dangos bod llai na hanner y cleifion sy'n aros am driniaeth gofal llygaid wedi'u gweld o fewn y dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol.
Mae sefydliadau ffermio wedi cael eu canmol yn Siambr y Senedd gan yr Aelod lleol Paul Davies am eu gwaith i gefnogi ffermwyr â chyflyrau iechyd meddwl, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref.