Yn ddiweddar, bu Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro yn ymweld â Pharc Tonfyrddio Sir Benfro yn ystod yr Wythnos Twristiaeth. Agorodd y Parc Tonfyrddio ger Martletwy yn 2017 gan y brodyr a’r chwiorydd Mark, Sarah a Steph Harris.
Yn ddiweddar, bu Paul Davies yr Aelod Cynulliad lleol, yn ymweld â swyddfa Cyngor ar Bopeth yn Hwlffordd i gyfarfod Geraldine Murphy y Prif Weithredwr, Alan Furlong, Ymddiriedolwr a Nikki Neufeld, yr Uwch Reolwr Cyngor.
Fe fu’r Aelod Cynulliad lleol Paul Davies ar ymweliad hyfryd â llety gwely a brecwast Fields Lodge yr wythnos hon i ddathlu ail Wythnos Genedlaethol Gwely a Brecwast y DU.
Amddiffyn gwasanaethau a statws Ysbyty Llwynhelyg yw blaenoriaeth uchaf Paul. Mae cynnal mynediad i wasanaethau ysbyty lleol yn hanfodol er diogelwch a chyfleustra pobl Sir Benfro.
Mae Paul wedi ymgyrchu’n frwd dros wasanaeth band eang gwell ledled Sir Benfro ers 2007. Mae’n ymwybodol iawn o’r ffaith fod gwasanaeth band eang cryf ar draws y sir yn hollbwysig i fusnesau lleol ac er mwyn adfywio trefi.
Mae parhau i fod yn gystadleuol yn y 21ain Ganrif yn hanfodol os yw Sir Benfro yn mynd i gynnal ei enw da fel un o ardaloedd gorau Cymru ar gyfer diwydiant a thwristiaeth.