Cwcis

Rydym yn defnyddio technoleg cwcis i roi profiad pwrpasol o’n gwefan i chi, yn ogystal â’r platfformau eraill rydyn ni’n gweithredu arnynt. Darn o god sy’n cael ei anfon at eich porwr rhyngrwyd a’i storio ar eich system chi yw cwci.

Weithiau, efallai y byddwn am brofi ac yn arbrofi gyda thechnolegau newydd i wella’ch profiad ar-lein chi. Gallwch reoli ar gyfer beth y defnyddir cwcis, trwy olygu’r gosodiadau yn eich porwr rhyngrwyd.

Isod, fe welwch chi restr o’r prif gwcis a ddefnyddir gan y wefan hon ar hyn o bryd.  Ni fydd unrhyw gwcis sy’n cael eu profi ar hyn o bryd yn ymddangos ar y rhestr tan ar ôl i ni benderfynu eu gweithredu’n barhaol. Gallwch weld yr holl gwcis drwy’ch porwr rhyngrwyd, neu trwy ddefnyddio cyfarpar trydydd parti yn dibynnu ar eich porwr rhyngrwyd.

Dyma restr o’r prif gwcis rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd:

Enw’r Cwci                                                                                                                                                                                                     Diben                                                                                                                                                                                                         Rhagor o wybodaeth

_utma

_utmb

_utmc

_utmz

Cwcis Google Analytics. Mae meddalwedd Google Analytics yn ein galluogi i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein gwefan a darparu’r profiad gorau i ymwelwyr.

Mae’r cwcis hyn yn casglu data’n anhysbys. Darllenwch bolisi preifatrwydd Google am wybodaeth bellach: http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

I optio allan o’r cwcis hyn, ewch i wefan Google: https://tools.google.com/dlpage/gaoptout?hl=None

_bluetree_dhtml_menu

Mae’n cofio a ydych chi wedi agor neu gau dewislenni, ac felly’n parhau’n gyson wrth i chi bori drwy’r wefan.

 

Nid yw’r cwci hwn yn cael ei bennu os ydych chi wedi analluogi Javascript.  Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Drupal: http://drupal.org/project/dhtml_menu

Cwcis trydydd parti

Nid oes gennym fynediad i ddata sy’n cael ei gasglu gan wasanaethau trydydd parti ac ni allwn atal gwasanaethau trydydd parti rhag pennu’r cwcis hyn. Lle bo modd, byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd cwcis trydydd parti wedi’u pennu wrth ddefnyddio gwasanaethau penodol. Isod, ceir manylion am wasanaethau trydydd parti sy’n cael eu defnyddio gan amlaf ar wefannau Bluetree.

Cwcis Twitter

Efallai y bydd Twitter yn pennu cwcis ar wefannau sy’n galluogi ffrydiau Twitter. I gael rhagor o fanylion am ba wybodaeth mae Twitter yn ei chasglu, ewch i: https://twitter.com/privacy

Cwcis YouTube 

Efallai y byddwn yn cynnwys neu fewnblannu fideos o YouTube.  Mae YouTube yn defnyddio cwcis er mwyn helpu i gynnal cywirdeb ystadegau fideos, atal twyll a gwella profiad pobl o’r wefan. Os byddwch chi’n gwylio fideo, efallai y bydd YouTube yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://support.google.com/youtube/bin/answer.py?hl=en-GB&answer=171780&…

Cwcis Flickr 

Efallai y byddwn yn mewnblannu Flash player oriel luniau Flickr. Wrth edrych ar dudalen gyda Flash player, gall Flickr osod cwcis ar eich peiriant, ac efallai y bydd cwcis pellach yn cael eu gosod wrth i chi glicio ar Flash player – gan Flickr a’i riant-gwmni Yahoo. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://info.yahoo.com/privacy/uk/yahoo/cookies/

Naidlen cwcis

Pan fyddwch chi’n cau’r blwch naidlen cwcis, bydd un o’r cwcis canlynol yn cael eu gosod ar eich peiriant er mwyn cofio’ch dewisiadau:

·        Os ydych chi’n clicio 'OK': bydd cwci sesiwn yn cael ei bennu fel nad yw’r naidlen yn ymddangos ar draws unrhyw dudalennau am weddill eich ymweliad. Bydd y cwci’n cael ei ddinistrio pan fyddwch chi’n cau’r porwr rhyngrwyd; sy’n golygu y bydd y naidlen yn ymddangos eto pan fyddwch chi’n ymweld â’r wefan eto.

·        Os ydych chi’n clicio 'Accept': bydd cwci parhaol yn cael ei bennu fel nad yw’r naidlen yn ymddangos ar draws unrhyw dudalennau pryd bynnag fyddwch chi’n ymweld â’r wefan.

Os ydych chi wedi analluogi Javascript, bydd neges yn ymddangos ar droedyn y wefan yn lle.

Optio allan/dileu cwcis

I optio allan o gwcis Google Analytics, ewch i wefan Google: https://tools.google.com/dlpage/gaoptout?hl=None

Hefyd, gallwch reoli pa gwcis rydych chi’n eu derbyn drwy’ch porwr rhyngrwyd. I wybod sut i wneud hyn, ewch i aboutcookies.org. Cofiwch, trwy ddileu ein cwcis neu analluogi cwcis y dyfodol, efallai na fyddwch chi’n gallu cyrchu adrannau neu nodweddion penodol o’n gwefan.