Polisi diogelu data a phreifatrwydd

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut mae Paul Davies AC Preseli Penfro yn prosesu ac yn rheoli data personol ac yn:

• Nodi’r rheolydd data.

• Esbonio’r sail gyfreithiol dros brosesu data personol.

• Amlinellu’r data personol sy’n cael ei gadw a’i brosesu.

• Amlinellu cwmpas y data personol categori  arbennig sy’n cael ei gadw a’i brosesu.

• Amlinellu’r broses o wneud cais am fynediad i wybodaeth. 

1. Rheolydd data

Paul Davies AC Preseli Penfro yw’r rheolydd data.

2. Cyswllt

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu eisiau rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n defnyddio’ch data neu am arfer unrhyw un o’ch hawliau, cysylltwch â Paul Davies AC Preseli Penfro.

3. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae’r holl waith prosesu’n cael ei gyflawni trwy ganiatâd neu naill ai dan fudd dilys Paul Davies AC Preseli Penfro, neu fudd y cyhoedd. Mae’n cynnwys prosesu i gynnal gwaith achos, ymgyrchu a chyfathrebu. Os yw’n cael ei brosesu dan sail gyfreithiol tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, mae hynny er mwyn cefnogi neu hyrwyddo cysylltiad democrataidd. Mae hynny’n cynnwys gweithgaredd codi arian er mwyn cefnogi ymgysylltu democrataidd.

4. Ffynonellau data

Ystyr data a gedwir yw data sy’n cael ei ddarparu gennych pan fyddwch chi’n cysylltu â ni a gohebiaethau gyda thrydydd partïon mewn ymateb i achosion a gynhelir ar eich rhan. Os nad ydych chi am inni gysylltu â chi dros y ffôn, peidiwch â darparu’r wybodaeth hon. Mae’r Gofrestr Etholwyr y mae cynghorau’n eu darparu i bersonau awdurdodedig dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion etholiadol.

5. Diogelwch data 

Mae data personol yn cael ei storio’n electronig ac yn ddiogel. Rydym yn sicrhau bod ein darparwyr gwasanaethau yn cydymffurfio â’r un safon uchaf â ni, ac wedi’u lleoli yn y DU.

 

6. Data categori arbennig

Bydd data categori arbennig yn cael ei brosesu dan y sail gyfreithiol a nodir yn adran 3, fel y caniateir dan gymalau 22, 23 a 24 o atodlen 1 o’r Ddeddf Diogelu Data, sy’n cwmpasu pleidiau gwleidyddol a chynrychiolwyr etholedig.

7. Trosglwyddo’ch data y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop

Mae rhai darparwyr gwasanaeth wedi’u lleoli y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE) ac felly efallai y bydd angen trosglwyddo’ch data personol y tu allan i AEE. Pan fydd hynny’n digwydd, byddwn yn gofalu ei fod yn cael ei ddiogelu fel petai’r data y tu mewn i’r AEE, ac mai dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd hyn yn digwydd.

Byddwn yn defnyddio un o’r dulliau diogelu canlynol i sicrhau hyn:

• Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno penderfyniad digonol i bennu bod gwlad neu sefydliad nad yw’n rhan o AEE yn sicrhau lefel ddigonol o ddiogelu data.

• Mae contract mewn lle gyda derbynnydd y data sy’n ei gwneud hi’n ofynnol iddynt ddiogelu’r data i’r un safonau ag AEE.

• Mae’r data’n cael ei drosglwyddo i sefydliad sy’n cydymffurfio â Tharian Preifatrwydd yr UE-UDA.

Yn gyfreithiol, ni chaniateir trosglwyddo mathau penodol o ddata, fel Data’r Gofrestr Etholiadol, y tu allan i AEE, ac rydyn ni’n parchu hynny.

8. Polisi cadw data

Ni fyddwn yn cadw data personol am fwy nag sydd raid. Efallai y bydd rhai mathau o ddata yn cael eu cadw am gyfnod hwy nag eraill. Dau gyfnod etholiadol yw’r cyfnod cadw mwyaf fel arfer. Byddwn yn adolygu’r data a gedwir ym mhob cyfnod etholiadol er mwyn penderfynu a ddylem ei gadw neu ei ddileu.

9. Cais gwrthrych am wybodaeth

Byddwn yn ymdrin â’r ceisiadau hyn yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth:

• Byddwn yn gofyn am ddilysu hunaniaeth unrhyw un sy’n gwneud cais, ac yn gofyn am fwy o eglurder a manylion os oes angen.

• Byddwn yn ymateb o fewn 28 diwrnod calendr unwaith inni gadarnhau ei fod yn gais cyfreithlon.

• Mae gan wrthrychau’r data yr hawl i’r canlynol:

o Cael gwybod a yw unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu

o Cael disgrifiad o’r data personol, pam mae’n cael ei brosesu ac a fydd yn cael ei roi i sefydliadau neu bobl eraill

o Cael copi o’r wybodaeth sy’n cynnwys y data, a chael manylion am ffynhonnell y data os yw ar gael.

10. A wnawn ni rannu’ch data ag unrhyw un arall?

Os gwnaethoch chi gysylltu â ni am fater personol neu bolisi, efallai y byddwn yn trosglwyddo’ch data i drydydd parti wrth ymdrin â’ch ymholiad, fel awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus, ymddiriedolaethau iechyd, rheoleiddwyr, ac ati. Mae unrhyw drydydd parti y gallem rannu’ch data â nhw yn gorfod cadw’ch manylion yn ddiogel a’u defnyddio ar gyfer y bwriad gwreiddiol yn unig.

Efallai y byddwn yn rhannu’ch data â thrydydd parti, fel yr heddlu, os yw hynny’n ofynnol dan y gyfraith.

Hefyd, efallai y byddwn yn rhannu data gydag endidau cymdeithasau, ffederasiynau, canghennau, grwpiau a chysylltiadau Plaid Wleidyddol er mwyn eich help neu gadw mewn cysylltiad â chi i gefnogi ymgysylltu democrataidd.

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio’n unig i’r diben yr amlinellir yma, ac o fewn eich disgwyliadau rhesymol chi yn seiliedig ar natur y cyfathrebu, gan gydnabod yr angen am gysylltiadau gwleidyddol er mwyn cefnogi ymgysylltu democrataidd yn ehangach.

11. Hawliau data

Ar unrhyw bwynt, mae gennych chi’r hawliau canlynol:

• Hawl i fynediad – mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch.

• Hawl i gywiro – mae gennych hawl i gywiro data a gedwir amdanoch sy’n anghywir neu’n anghyflawn.

• Hawl i gael eich anghofio – dan amgylchiadau eithriadol, gallwch ofyn inni ddileu data amdanoch o’n cofnodion.

• Hawl i wrthwynebu – mae gennych hawl i wrthwynebu mathau penodol o brosesu, fel marchnata uniongyrchol.

• Hawl i wrthwynebu prosesu awtomatig, gan gynnwys proffilio – mae gennych hawl i hyn hefyd yn amodol ar effeithiau cyfreithiol prosesu neu broffilio awtomatig

• Hawl i adolygiad barnwrol: os yw’n swyddfa ni’n gwrthod eich cais dan hawliau mynediad, byddwn yn darparu rheswm pam. Mae gennych hawl i gwyno.

12. Gwneud cwyn

Os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd yr ydym wedi prosesu neu ymdrin â’ch data, yna mae gennych hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - corff goruchwylio a awdurdodwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoleiddio’r broses o drin data personol yn y DU. Dyma fanylion cyswllt y Swyddfa:

 

• Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, SK9 5AF

• Ffôn: 0303 123 1113

• Gwefan: https://ico.org.uk/concerns/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y data a gedwir, cysylltwch âPaul Davies AC Preseli Penfro drwy’r manylion cyswllt ar y wefan hon.

Cofiwch fod angen prawf o bwy ydych chi os ydych chi am ddefnyddio unrhyw un o’r hawliau uchod mewn perthynas â data personol.

Cwmni Bluetree Website Services sy’n rhoi cymorth technegol i’r wefan hon, sy’n rhannu Polisi Preifatrwydd gyda’r Ceidwadwyr: www.conservatives.com/privacy

Rydym yn cadw’r hawl i ddiweddaru’r polisi hwn unrhyw bryd. Os oes unrhyw newidiadau sy’n cael effaith sylweddol ar eich hawliau, byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw.