Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd

  • Tweet
Dydd Mercher, 29 Mawrth, 2023
  • Assembly News
autism

Mae ymgyrch fyd-eang i helpu i gynyddu dealltwriaeth a derbyn pobl ag awtistiaeth wedi ei chefnogi gan yr Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies. Mae Mr Davies yn cefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, a gynhelir rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2023 a'r thema eleni yw lliw. Mae digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y wlad i ddathlu niwroamrywiaeth gan gynnwys gwerthu cacennau, teithiau cerdded y sbectrwm lliw a chwisiau ar thema lliw.

Dywedodd Mr Davies, "Mae Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd yn gyfle gwych i ni ddathlu ein gwahaniaethau a helpu i wneud y byd yn lle mwy cynhwysol i bawb. Mae cymaint y gallwn ei wneud i wneud ein hamgylcheddau'n fwy ystyriol o awtistiaeth. Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr ac felly gobeithio y bydd pawb yn cymryd eiliad i feddwl sut y gallan nhw gefnogi'r achos, cynyddu dealltwriaeth a helpu i dderbyn pobl ag awtistiaeth yn Sir Benfro.

Ychwanegodd, "Er bod yr Wythnos Derbyn Awtistiaeth yn gyfle i ddathlu, rydyn ni hefyd yn gwybod bod plant yn aros misoedd yn anffodus - ac mewn rhai achosion, blynyddoedd, i gael diagnosis. Dyna'n union pam rwy'n credu bod angen Bil Awtistiaeth mor angenrheidiol yng Nghymru oherwydd dwi’n credu y byddai'r ddeddfwriaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n aros am ddiagnosis heddiw. Felly, er ein bod yn dathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, gadewch i ni hefyd gofio bod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r rhestrau aros presennol a byddaf yn parhau i annog Llywodraeth Cymru i weithredu, pob cyfle bosib."

You may also be interested in

Rail

Paul Davies AS yn parhau i ymgyrchu dros well gwasanaethau rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru

Dydd Llun, 28 Medi, 2026
 Mae Paul Davies AS wedi cynyddu ei ymgyrch dros well gwasanaethau rheilffyrdd yng ngorllewin Cymru, gan alw am adolygiad o'r ddarpariaeth rheilffyrdd yng nghanol pryderon parhaus gan deithwyr ynghylch amlder a dibynadwyedd gwasanaethau.Cododd yr Aelod o Senedd Cymru dros Geredigion Penfro y ma

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree