Mae'r ddau Aelod o’r Senedd dros Sir Benfro wedi galw ar Lywodraeth Cymru i 'ddiogelu a hyrwyddo' diwydiant ynni Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
Bu Paul Davies AS a Samuel Kurtz AS yn siarad o blaid dyfodol y diwydiant gwerth miliynau o bunnau, yn ystod cyfarfod llawn yn y Senedd.
Wrth siarad am yr angen am eglurder ynghylch y Cynllun Masnachu Allyriadau DU gyfan, galwodd Mr Kurtz ar Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i'r diwydiant ynghylch ei weithrediad.
Hefyd, galwodd Paul Davies AS am fwy o gefnogaeth i fusnesau ynni sy'n ceisio datgarboneiddio a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.
Wrth drafod y mater, dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies:
"Rydyn ni’n gwybod bod gan ddiwydiannau ynni-ddwys ran i'w chwarae wrth helpu'r DU i gyrraedd ei nodau newid hinsawdd ac mae Arfordir Sir Benfro wedi bod ar flaen y gad ers tro gyda rhai datblygiadau arloesol iawn ym maes ynni hydrogen ac ynni adnewyddadwy carbon isel.
"Rwy'n gwerthfawrogi bod rhaid cael cydbwysedd fel y gall diwydiant lleol barhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang, tra'n parhau i fod o bwysigrwydd hanfodol i ddiogelwch ynni'r DU.
"Felly, rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad ar sut y bydd yn cefnogi diwydiannau ynni-ddwys i ddatgarboneiddio a gostwng eu hallyriadau ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am y gwaith yma maes o law."
Ychwanegodd yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz:
"Mae ein harfordir yn ganolbwynt ar gyfer buddsoddiad ynni gwyrdd, o wynt ar y môr i gynhyrchu hydrogen, mae gennym gyfoeth go iawn o gyfle ar garreg y drws.
"Ond er mwyn i fuddsoddiad ddigwydd, mae angen y cymorth cywir ar y diwydiant gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n cynnwys cefnogaeth i helpu i ddatgarboneiddio ac eglurder wrth gyflwyno Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU.
"Dyma gyfle Llywodraeth Cymru i ddiogelu a hyrwyddo'r diwydiant aruthrol hwn, ac wrth wneud hynny, gallwn barhau i ddatblygu ein heconomi leol, denu swyddi a sicrhau diogelwch ynni'r Deyrnas Unedig."