Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn trafod Meddygfa Solfach yn y Senedd

  • Tweet
Dydd Mercher, 1 Chwefror, 2023
  • Assembly News
Chamber

Yr wythnos hon codwyd dyfodol Meddygfa Solfach yn Siambr y Senedd gan yr Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies. Galwodd Mr Davies ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gymuned leol i sicrhau bod preswylwyr yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal leol, yn dilyn y newyddion bod y partneriaid meddygon teulu wedi cyhoeddi eu hymddeoliad.

Meddai Mr Davies, "Rwy'n gwybod bod pryderon am ddarpariaeth gwasanaethau yn yr ardal yn y dyfodol, ac felly gofynnais i'r Gweinidog Iechyd pa gefnogaeth sy'n cael ei darparu i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn eu hardal leol. Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd gydnabod bod heriau recriwtio meddygon teulu i Sir Benfro a bod gwaith yn mynd rhagddo i roi rhywbeth yn ei le erbyn diwedd mis Mawrth."

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i recriwtio meddygon teulu i Sir Benfro a byddaf yn parhau i fachu ar bob cyfle i godi mater mynediad at wasanaethau sylfaenol gyda'r Gweinidog Iechyd."

Nodiadau i Olygyddion

Gallwch ddarllen y drafodaeth rhwng Paul Davies AS a'r Gweinidog Iechyd yma - https://record.senedd.wales/Plenary/13191#A77357 (o baragraff 219)

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn dwyn Cyngor Sir Penfro i gyfrif ynglŷn â chynlluniau ffordd Niwgwl

Dydd Gwener, 25 Ebrill, 2025
Mae’r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi mynegi ei bryder am Brosiect Addasu Arfordir Niwgwl Cyngor Sir Penfro ac mae'n annog y Cyngor i weithio gyda'r gymuned ar ddatrysiad mwy costeffeithiol, amgylcheddol sensitif yn lle hynny.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Hawlfraint 2025 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree