
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro Paul Davies wedi croesawu'r newyddion y bydd Porthladd Rhydd Celtaidd yn cael ei sefydlu ar hyd arfordir y De. Parth economaidd arbennig yw Porthladd Rhydd, sydd wedi’i leoli o gwmpas porthladd (neu faes awyr neu ganolfan rheilffordd) sydd â gwahanol reolau treth a thollau sy’n gweithredu fel cymhellion ar gyfer buddsoddi a masnachu.
Cyflwynwyd y cais am y Porthladd Rhydd Celtaidd ar ran consortiwm cyhoeddus-preifat y mae ei bartneriaid yn cynnwys yr Associated British Ports (ABP), Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau. Roedd yn un o dri chais yng Nghymru a gafodd eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac a lwyddodd, ochr yn ochr ag ymgais Porthladd Rhydd Ynys Môn.
Dywedodd Mr Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar bolisi porthladdoedd ac Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, sy'n cynnwys Porthladd Aberdaugleddau, "Rwy’n falch iawn o glywed fod y cais am Borthladd Rhydd Celtaidd wedi cael ei dderbyn. Bydd y Porthladd Rhydd yn datgloi cyfleoedd enfawr i'r ardal leol drwy gyflymu arloesedd ac annog buddsoddiad sylweddol. Bydd yn cefnogi miloedd o swyddi newydd, yn cynhyrchu biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad, ac yn chwarae rhan allweddol wrth gyflymu'r broses o gyflwyno gwynt arnofiol alltraeth."
Ychwanegodd, "Bydd hefyd yn rhoi Sir Benfro ar y map fel ardal sy’n arwain y byd ym maes ynni gwyrdd ac yn trawsnewid cymunedau'r De-orllewin. Rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am ddatblygiad y Porthladd Rhydd wrth iddo ddigwydd a bydd yn gyffrous i'w weld yn gwireddu ei botensial ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein hardal."