Hygyrchedd

Mae’n bwysig gofalu bod gwefannau yn hygyrch i bob defnyddiwr. Felly, cynlluniwyd y wefan hon i fodloni Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0. Nod y canllawiau hyn yw gofalu bod cynnwys y we yn hygyrch i bobl ag anableddau.

Cynlluniwyd y wefan er mwyn cydymffurfio â lefel gydymffurfio AA gofynnol Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We, ond mae hefyd yn cydymffurfio â’r pwyntiau gwirio eraill a nodwyd yn y Canllawiau ar gyfer lefel AAA.

Gallwch newid maint testun y wefan hon trwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr. Er enghraifft, yn Internet Explorer gallwch osod hwn trwy fynd i’r ddewislen 'View' ? 'Text Size' neu ddefnyddio lefel chwyddo’r sgrîn (Zoom) ar ochr chwith isaf y bar statws yn Internet Explorer 7. Yn Mozilla Firefox, ewch i 'View' ? 'Text Size'. Yn Safari, daliwch fotwm cmd (Apple) i lawr a phwyso’r bysell (+) ac (-).

Mae’r wefan hon wedi’i hoptimeiddio ar gyfer y porwr canlynol:

·        Internet Explorer 10.0 a hŷn

·        Mozilla Firefox 50.0 a hŷn

·        Safari (MacOS) 9.1 a hŷn

·        Google Chrome 54.0 a hŷn

Os nad yw’r wefan yn ymddangos yn gywir, diweddarwch i fersiwn ddiweddaraf eich porwr.