Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, yn cefnogi ymgyrch Diwrnod Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy (LSCT) i wella cyfraddau goroesi gwael pobl sy'n cael diagnosis o ganserau'r ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas neu'r stumog.
Mae'r LSCT wedi rhyddhau ffigurau heddiw, yn seiliedig ar ddadansoddiad newydd o ddata cyfredol a chyfraddau goroesi byd-eang o ganserau'r ysgyfaint, yr afu, yr ymennydd, yr oesoffagws, y pancreas a'r stumog, sy'n dangos bod Cymru, a'r DU gyfan, ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill o ran goroesiad cleifion.[1] Mae'r data'n dangos, o’r 33 o wledydd sydd â lefelau cyfoeth ac incwm tebyg, fod Cymru mor isel â'r 32ain safle am oroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser y stumog a'r 31ain safle ar gyfer canser y pancreas a'r ysgyfaint. Mae Cymru'n codi i'r 21ain safle ar gyfer canser yr afu a chanser yr oesoffagws a'r 12fed safle ar gyfer canser yr ymennydd.[2][3] Mae'r cyfraddau goroesi gwael hyn ar gyfer canserau llai goroesadwy yn debyg ar draws holl wledydd y DU. Y gwledydd â'r cyfraddau goroesi pum mlynedd uchaf ar gyfer canserau llai goroesadwy oedd Korea, Gwlad Belg, UDA, Awstralia a Tsieina, a chanfu'r dadansoddiad newydd, pe bai pobl yn y DU yn goroesi ar yr un gyfradd â'r rhai yn y gwledydd hyn, y gallai dros 8,000 o fywydau gael eu hachub bob blwyddyn.[4][5] Ar hyn o bryd yn y DU, bydd tua 15,400 o bobl yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser llai goroesadwy - pe bai gan y DU gyfraddau goroesi tebyg i'r pum gwlad sy'n perfformio orau, gallai'r ffigur hwn fod yn agos at 24,000.[6] Mae'r LSCT yn galw ar i holl lywodraethau'r DU ymrwymo i gynyddu cyfraddau goroesi ar gyfer canserau llai goroesadwy drwy ddileu oedi y gellir ei osgoi wrth gael diagnosis a thrwy fuddsoddi'n rhagweithiol mewn opsiynau ymchwil a thriniaeth.
Wrth sôn am yr ymgyrch, dywedodd Paul Davies, "Mae pobl sy'n cael diagnosis o'r canserau hyn ar hyn o bryd yn wynebu cyfraddau goroesi gwael ac mae'n rhaid cymryd camau brys i wella canlyniadau cleifion yng Nghymru. Cefais y cyfle i siarad â thîm yr ymgyrch yn y Senedd yn ddiweddar a buom yn trafod rhai o'u hystadegau a phwysigrwydd gwybod y symptomau a chael cymorth os ydych chi'n meddwl y gallai rhywbeth fod o'i le.”
Ychwanegodd, "Rwy'n falch o gefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy ac rwy'n cymeradwyo ymdrechion y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy, sy'n parhau i godi ymwybyddiaeth o'r canserau hyn a galw ar i lywodraethau ledled y DU wneud mwy i'w blaenoriaethu.”
Dywedodd Judi Rhys MBE, Prif Weithredwr Gofal Canser Tenovus a Chadeirydd is-grŵp Cymru y Tasglu Canserau Llai Goroesadwy: “Mae pobl sy'n cael diagnosis o un o'r chwe chanser hyn yn dal i fod â disgwyliad oes syfrdanol o isel. Mae'r ffigurau a ryddhawyd heddiw yn peri pryder ac mae'n hynod siomedig gweld pa mor wael mae Cymru, a'r DU, yn perfformio o gymharu â'n cymheiriaid rhyngwladol.
“Byddai'r camau rydyn ni wedi galw amdanynt dro ar ôl tro - sgrinio wedi'i dargedu a monitro'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf - yn cael effaith enfawr ar gyfraddau goroesi. Dylai'r ystadegau diweddaraf hyn fod yn atgof cryf i Lywodraeth Cymru o bwysigrwydd blaenoriaethu a chyflymu mentrau goroesi canser.
“Heb ymdrech a gweithredu ar y cyd nawr, byddwn yn parhau i golli cyfleoedd i achub bywydau.
“Mae'n gam cadarnhaol iawn gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys Paul, yn cefnogi ein Diwrnod Ymwybyddiaeth Canserau Llai Goroesadwy.”
[1] Cyfnod diagnosis 2010-2014, data o CONCORD-3. Dim ond gwledydd â data dibynadwy, safonedig yn ôl oedran ar gyfer pob LSC a ystyriwyd.
[2] Mae'r data'n seiliedig ar ymchwil, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan y rhaglen CONCORD ar gyfer gwyliadwriaeth fyd-eang o gyfraddau goroesi canser, a leolwyd yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, yn ystod y cyfnod rhwng 2010 a 2014.
[3] Gweler y rhestr lawn o wledydd yma
[4] Canfuwyd y pum gwlad sy'n perfformio orau drwy gyfrifo safle pob gwlad o fewn pob canser ac yna'r safle cymedrig ar gyfer pob gwlad ar draws pob canser. Yna, cymerodd ymchwilwyr y gwledydd gyda'r 5 safle cymedrig gorau (h.y. isaf) - i ddod o hyd i'r gwledydd sydd, ar gyfartaledd, yn perfformio orau ar draws pob un o'r chwe chanser llai goroesadwy. Gweler y rhestr lawn o wledydd yma.
[5] Amcangyfrifwyd drwy gymharu amcanestyniadau digwyddedd CRUK i gael nifer yr achosion blynyddol o ganserau llai goroesadwy yn y cyfnod rhwng 2023 a 2025. Yna, cyfrifodd ymchwilwyr gyfartaledd cymedrig o nifer y goroeswyr pum mlynedd yng nghyfraddau goroesi pob un o'r pum gwlad sy'n perfformio orau a chyfraddau digwyddedd y DU. Yna, cafodd hyn ei ailadrodd gan ddefnyddio cyfraddau goroesi'r DU. Cymerwyd yr holl gyfraddau goroesi o ddata CONCORD-3.
[6] Ar hyn o bryd yn y DU, bydd 15,427 o bobl yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael diagnosis o ganser llai goroesadwy - pe bai gan y DU gyfraddau goroesi sy'n debyg i'r pum gwlad sy'n perfformio orau, gallai'r ffigur hwn fod yn 23,775. Mae hyn yn wahaniaeth o 8,348 o fywydau.