Yn ddiweddar, cyfarfu'r Aelod o'r Senedd Paul Davies â Wales and West Utilities i glywed mwy am rai o'u prosiectau sy'n cael eu cynllunio ac sydd eisoes ar y gweill i gefnogi'r newid i Sero-Net yng Nghymru. Bu Mr Davies hefyd yn trafod 'HyLine Cymru', y cynnig i adeiladu piblinell hydrogen newydd 130km o Sir Benfro i Bort Talbot, a allai arbed 3.2m tunnell o CO2 bob blwyddyn a datgloi gwerth 4.5GW o ynni gwynt ar y môr. Pe bai'r biblinell yn cael ei hadeiladu, byddai'n paratoi'r ffordd ar gyfer cynhyrchu hydrogen ar raddfa fasnachol yn Sir Benfro, Port Talbot ac ar y Môr Celtaidd.
Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Mr Davies, "Rwy'n ddiolchgar i Wales and West Utilities am ddod i'r Senedd i drafod HyLine Cymru ac egluro sut y gallai'r biblinell helpu i ddarparu ynni glanach, gwyrddach ledled de Cymru. Roedd hefyd yn ddiddorol clywed gan rai o'u partneriaid, fel RWE power, am y rôl y maen nhw’n ei chwarae wrth helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd datgarboneiddio yn ne Cymru. Heb os, bydd hydrogen yn chwarae rhan enfawr yn narpariaeth ynni y dyfodol ac felly mae'n hanfodol bod cartrefi a busnesau Cymru yn gallu manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae hydrogen yn eu cynnig."
PIC CAP (L-R): Richard Little, Director of the Pembroke Net Zero Centre (PNZC), Matt Hindle, Head of Net Zero and Sustainability at Wales & West Utilities and Paul Davies MS.