Mae sefydliadau ffermio wedi cael eu canmol yn Siambr y Senedd gan yr Aelod lleol Paul Davies am eu gwaith i gefnogi ffermwyr â chyflyrau iechyd meddwl, cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref. Eglurodd Mr Davies fod elusennau a sefydliadau yn gweithio i gefnogi'r sector amaethyddol a thynnodd sylw at effaith materion fel TB Buchol ar iechyd meddwl a lles ffermwyr.
Meddai Mr Davies, "Gyda Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn nesáu, roeddwn am achub ar y cyfle i ddiolch i'r rhai sy'n gweithio yn ein sefydliadau ffermio am y gefnogaeth y maen nhw’n ei chynnig i'r gymuned wledig. Yn aml gall ffermio fod yn swydd unig ac ynysig a gwn fod materion fel TB Buchol yn parhau i gael effaith ofidus ar deuluoedd ffermio."
"Mae'r sefydliadau hyn yn achubiaeth i rai ffermwyr yn Sir Benfro ac ni ddylem fyth danbrisio eu pwysigrwydd i'r sector."
"Galwais ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sefydliadau hyn a sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaethau gwerthfawr hyn am flynyddoedd i ddod."