Daeth elusen Dogs Trust draw i’r Cynulliad Cenedlaethol i drafod eu blaenoriaethau i Gymru gydag Aelodau Cynulliad.
Ar ben hynny, cyhoeddodd yr elusen lles anifeiliaid – sydd â 21 o ganolfannau ailgartrefu ledled y DU ac Iwerddon, gan gynnwys un ym Mhen-y-bont ar Ogwr – gynlluniau i agor canolfan yng Nghaerdydd yn 2021. Mae’r elusen yn gofalu am tua 15,000 o gŵn y flwyddyn ac nid yw byth yn difa unrhyw gi iach. Llwyddodd y Dog Trust i ailgartrefu 650 o gŵn yng Nghymru’r llynedd.
Mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Paul Davies AC, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod Cynulliad Preseli Penfro, bu’n gyfle i’r Dog Trust dynnu sylw at eu pryderon parhaus am fridio a gwerthu cŵn.
Meddai Paul Davies AC: “Roedd hi’n bleser noddi achlysur lansio’r Dog Trust a siarad yn y digwyddiad. Mwynheais sgwrsio gyda chynrychiolwyr y Dog Trust sy’n teimlo’n angerddol dros eu gwaith o feithrin cŵn a chwilio’n ddyfal am gartref am oes iddynt. Roeddwn i’n falch o ddeall eu bod eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o godi cartref newydd arloesol i gŵn yn y brifddinas, ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r prosiect.”
Siaradodd tîm Materion Cyhoeddus y Dog Trust ag Aelodau Cynulliad am eu hymdrechion i wella hysysbebion ar-lein sy’n gwerthu anifeiliaid anwes trwy’r gwaith o gadeirio’r Pet Advertising Advisory Group (PAAG) a’r angen i gyflwyno safonau gofynnol PAAG fel gofyniad cyfreithiol.
I ddarllen maniffesto’r Dog Trust i Gymru, ewch i https://www.dogstrust.org.uk/news-events/news/dogs-trust-public-affairs-news