Ysbyty Llwynhelyg

Ysbyty Llwynhelyg

Amddiffyn gwasanaethau a statws Ysbyty Llwynhelyg yw blaenoriaeth uchaf Paul. Mae cynnal mynediad i wasanaethau ysbyty lleol yn hanfodol er diogelwch a chyfleustra pobl Sir Benfro.

Ynghyd â Stephen Crabb AS, mae Paul wedi rhoi cefnogaeth heb ei ail i Dîm Gweithredu Achub Llwynhelyg (SWAT), ac wedi galw dro ar ôl tro am sicrwydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru na fydd gwasanaethau’n cael eu hisraddio na’n cael eu canoli.