A40

Mae parhau i fod yn gystadleuol yn y 21ain Ganrif yn hanfodol os yw Sir Benfro yn mynd i gynnal ei enw da fel un o ardaloedd gorau Cymru ar gyfer diwydiant a thwristiaeth. Dyma pam mae Paul wedi ymgyrchu ers tro byd i weld yr A40 o Sanclêr i Hwlffordd ac Abergwaun yn cael eu gwneud yn ffordd ddeuol.

Gyda datblygiadau mawr newydd terfynfeydd LNG (Nwy Naturiol Hylifedig) yn Herbranston a Waterston, yn ogystal â nifer cynyddol o dwristiaid ac ymwelwyr â Sir Benfro bob blwyddyn allwn ni ddim fforddio gadael i’n seilwaith barhau fel y mae, a wynebu’r posibilrwydd o golli manteision busnes a thwristiaid sydd gan Sir Benfro.

Hefyd, mae’r perygl cynyddol o deithio ar yr A40 fel ffordd unffrwd, o gymharu â’r rhan ddeuol yr ochr draw i Sanclêr yn angen gwirioneddol bwysig er diogelwch pawb sy’n teithio yn ôl a blaen i’n sir wych ni.