![Broadband](/sites/www.paul-davies.cymru/files/styles/gallery_large/public/2019-04/Everything%20is%20connected%201.jpg?itok=839j9tDB)
Mae Paul wedi ymgyrchu’n frwd dros wasanaeth band eang gwell ledled Sir Benfro ers 2007. Mae’n ymwybodol iawn o’r ffaith fod gwasanaeth band eang cryf ar draws y sir yn hollbwysig i fusnesau lleol ac er mwyn adfywio trefi. Mae wedi ysgrifennu dro ar ôl tro at Weinidogion Llywodraeth Cymru ac wedi codi’r mater yn Siambr y Cynulliad Cenedlaethol. Yn anffodus, dim ond gwasanaeth band eang cyfyngedig sydd ar gael mewn rhai ardaloedd o Sir Benfro o hyd – os o gwbl - felly mae Paul yn parhau i godi’r mater pob cyfle posib.