Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Senedd

  • Tweet
Senedd

Rôlau  a chyfrifoldebau Aelod Cynulliad

Beth yw Aelod Cynulliad?

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 o Aelodau Cynulliad. Cynhelir etholiadau ym mis Mai bob pum mlynedd.

Caiff yr Aelodau Cynulliad eu hethol i gynrychioli ardal benodol o Gymru fel aelodau o bleidiau gwleidyddol (er enghraifft: Y Ceidwadwyr, Llafur, Plaid Cymru a Democratiair Rhyddfrydol Cymru) neu fel aelodau annibynnol.

Beth y mae Aelod Cynulliad yn ei wneud?

Mae Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith democrataidd y Cynulliad; maent yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Caiff Llywodraeth Cymru ei ffurfio ar ôl etholiad, ac mae’n cynnwys hyd at 12 o Weinidogion a Phrif Weinidog Cymru. Caiff y Llywodraeth ei ffurfio, fel arfer, gan y blaid wleidyddol fwyaf neu bartneriaeth o bleidiau.

Mae Aelodau’r Cynulliad yn cwrdd yn wythnosol yn ystod tymor y Cynulliad i drafod materion sydd o bwys i Gymru a’i phobl.

Maent yn cwrdd yn y Cyfarfod Llawn, lle caiff yr Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, trafod materion fel polisïau’r Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau ac archwilio deddfau Cymru. Maent hefyd yn cwrdd mewn pwyllgorau sydd wedi’u sefydlu gan y Cynulliad at ddibenion penodol. Mae’r rhain yn cynnwys archwilio deddfau, craffu ar bolisi, cynnal busnes y Cynulliad ac ymgymryd â thasgau eraill. Gall gwrthbleidiau gynnal trafodaethau ar unrhyw bwnc y mynnent sy’n cael eu dyrannu yn gymharol i maint y blaid yn y Cynulliad. fel arfer ar ddydd Mercher.

Drwy’r pwyllgorau, gall y Cynulliad wneud mwy o waith yn gyflymach a gall yr Aelodau arbenigo mewn meysydd penodol. Fel arfer, mae aelodaeth y pwyllgorau’n cyfateb yn fras i gynrychiolaeth gyffredinol y pleidiau yn y Cynulliad.

Y Cynulliad sy’n penderfynu pa Aelodau ddylai fod ar y pwyllgorau. Fel arfer, gall Aelodau eraill y Cynulliad fynd i gyfarfodydd pwyllgor, ond ni allant bleidleisio. Caiff pwyllgorau benderfynu cwrdd yn breifat pan fydd angen, ond mae’r rhan fwyaf o bwyllgorau’n cwrdd yn gyhoeddus. Gall unrhyw un wylio’r cyfarfodydd hyn o’r orielau cyhoeddus yn y Senedd, neu ar wefan y Cynulliad, sef Senedd.tv.

Craffu ar waith Llywodraeth Cymru

Un o swyddogaethau pwysicaf Aelodau’r Cynulliad yw archwilio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Mae hyn yn cynnwys trafod polisïau, gofyn cwestiynau manwl am bolisïau a gweithredoedd y Llywodraeth, cynnal ymchwiliadau i faterion penodol neu’r gwaith a gaiff ei wneud gan gyrff cyhoeddus a dwyn Gweinidogion i gyfrif yn y Cynulliad. Caiff y rôl hon o fonitro ei chynnal mewn dwy brif ffordd – yn y Cyfarfod Llawn, lle mae’r holl Aelodau’n  cwrdd, a thrwy amrywiaeth o bwyllgorau.

Cefndir Paul

  • Senedd
  • My map

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2023 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree