Yn ddiweddar, ymwelodd yr Aelod o'r Senedd Paul Davies â Grŵp EH, cwmni lleol sy'n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i bobl ledled Sir Benfro. Cyfarfu Mr Davies â Simon Clarke, Sally Clarke a Donna Beavis a esboniodd fod Grŵp EH wedi dechrau fel cartref gofal yn y lle cyntaf 35 mlynedd yn ôl ac mae bellach wedi datblygu'n sefydliad gyda phum busnes llwyddiannus yn Sir Benfro. Mae'r sefydliad yn cynnwys pum busnes - Cartref Gofal Elliots Hill, Pembrokeshire Care, Ashdale Care, Catalyst Training, a Coastal Cleaning ac mae'n cyflogi bron i 300 o bobl ledled y sir.
Meddai Mr Davies, "Mae Grŵp EH wedi bod yn darparu gofal ledled Sir Benfro ers blynyddoedd lawer ac felly roedd yn ddiddorol iawn siarad gyda'r rheolwyr a dysgu mwy am eu busnesau a'r heriau y mae'r sector gofal yn eu hwynebu. Rwy'n gwybod bod recriwtio wedi bod yn bryder ac mae'n hanfodol bod mwy yn cael ei wneud i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa yn y sector gofal cymdeithasol."
Ychwanegodd, "Mae Grŵp EH yn cwmpasu pob math o ofal personol, glanhau masnachol, a hyfforddiant ac mae cyfleoedd ar gael. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ystyried gyrfa yn y sector gofal cymdeithasol yn Sir Benfro, mae rhagor o wybodaeth am rai o'r cyfleoedd sydd ar gael ar wefan grŵp EH yn - https://theehgroup.com/"