
Cafodd yr ymgyrch i warchod cofebion rhyfel Cymru sylw eto yn y Senedd gan AS Preseli Sir Benfro, Paul Davies. Ailadroddodd Mr Davies, sydd wedi bod yn galw am weithredu i amddiffyn cofebion rhyfel yng Nghymru ers sawl blwyddyn, y galwadau hynny a gofynnodd i Lywodraeth Cymru wneud mwy i amddiffyn ein treftadaeth filwrol.
Dywedodd Mr Davies, "Mae'n hanfodol i genedlaethau'r dyfodol, nid yn unig gofio'r aberth a wnaed gan gynifer o bobl ar gyfer ein rhyddid ond dysgu am wrthdaro blaenorol a datblygu gwell dealltwriaeth o sut rydyn ni wedi datblygu i fod y genedl rydyn ni erbyn heddiw. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu bod angen gwneud mwy i ddiogelu a gwarchod cofebion rhyfel Cymru."
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a heddluoedd a sicrhau bod digon o arian ar gael i'r awdurdodau amddiffyn cofebion rhyfel yn eu hardaloedd lleol. Yn y cyfamser, byddaf yn parhau i sefyll dros ein harwyr a fu farw a chodi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru ar bob cyfle posibl."