Wrth ymateb i’r newyddion bod digwyddiad mewnol difrifol wedi'i ddatgan yn Ysbyty Llwynhelyg, dywedodd Aelod o’r Senedd dros Preseli Penfro, Paul Davies:
"Mae'n hollbwysig bod arolwg yn cael ei gynnal ar unwaith a gobeithio bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud popeth posib i sicrhau bod hynny'n digwydd.
"Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae hefyd wrth gefnogi'r Bwrdd Iechyd a sicrhau bod ganddo'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arno i ddeall hyd a lled y broblem - a sicrhau bod gwaith adfer yn cael ei wneud mor gyflym a diogel â phosibl, fel y gall cleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg."
"O ystyried difrifoldeb y sefyllfa a'r effaith y bydd yn ei chael ar ddarparu gwasanaethau yn Sir Benfro, byddaf yn ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i’r Bwrdd Iechyd."
"Mae angen gwneud gwaith adfer cyn gynted â phosib fel bod gwasanaethau'n parhau yn Ysbyty Llwynhelyg."