Skip to main content
Banner image for

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH

Paul yn Dod yn Arwr Gwyrddlas ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari

  • Tweet
Dydd Mawrth, 29 Mawrth, 2022
Paul Davies MS

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi dangos ei gefnogaeth i fenywod â chanser yr ofari ar draws y rhanbarth mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ar 23 Mawrth. Rhoddwyd cyfle i Aelodau o'r Senedd wisgo fel "arwyr gwyrddlas" i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari, mewn digwyddiad a drefnwyd ar gyfer Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari ym mis Mawrth. Gwyrddlas (teal) yw lliw ymwybyddiaeth o ganser yr ofari, sy'n parhau i fod yn frawychus o isel yng Nghymru. Mae data gan yr elusen Target Ovarian Cancer yn dangos mai dim ond 27 y cant o fenywod yng Nghymru fyddai'n gallu enwi bol chwyddedig fel symptom o ganser yr ofari.

Meddai Mr Davies, "Mae dros 4,000 o fenywod yn y DU yn marw o ganser yr ofari bob blwyddyn, ac mae ymwybyddiaeth o'r symptomau allweddol yn parhau i fod yn rhy isel. Mae'r symptomau'n cynnwys teimlo'n llawn, bol wedi chwyddo'n barhaus, angen troethi'n amlach a/neu â mwy o frys a phoen stumog – ac felly os oes unrhyw un o'r symptomau hyn yn swnio'n gyfarwydd, yna cysylltwch â'ch meddyg teulu. Mae'n annhebygol bod eich symptomau'n cael eu hachosi gan broblem ddifrifol, ond mae'n bwysig gwirio. Rhaid i ni ddod at ein gilydd a gweithredu nawr i sicrhau bod pawb yn gwybod beth i gadw llygad amdano, a bod y rhai yr effeithir arnynt gan ganser yr ofari yn wynebu canlyniadau gwell. Dyna pam yr oeddwn yn falch o ymuno â chydweithwyr o bob rhan o'r gagendor gwleidyddol i gymryd rhan yn nigwyddiad Arwr Gwyrddlas (Teal Hero) eleni gyda'r elusen Target Ovarian Cancer i greu rhywfaint o gynnydd cadarnhaol.”

 

  • Assembly News

You may also be interested in

Paul Davies MS

Aelod o'r Senedd yn Ymweld â Sioe Deithiol Ymddiriedolaeth Afu/Iau Prydain

Dydd Mawrth, 29 Mawrth, 2022

Mae'r AS lleol Paul Davies wedi ymweld â sioe deithiol a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Afu/Iau Prydain yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth o beryglon clefyd yr afu.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2022 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree