
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod o'r Senedd lleol Paul Davies, ddigwyddiad briffio yn y Senedd mewn partneriaeth â phrosiect Dirnad Economaidd Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru. Roedd yn gyfle i Aelodau o'r Senedd a'u staff gael diweddariad ar y wybodaeth ddiweddaraf am yr economi a materion cyfredol sy'n effeithio ar fusnesau bach yma yng Nghymru.
Dywedodd Mr Davies, "Roedd yn bleser cynnal Brecwast Busnesau Bach arall yn y Senedd ac rwy'n ddiolchgar i Dirnad Economaidd Cymru a Ffederasiwn y Busnesau Bach am gymryd yr amser i friffio'r Aelodau ar y materion sy'n wynebu busnesau bach yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gyfnod anodd i fusnesau bach, ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau am beth arall allan nhw ei wneud i'w cefnogi. “
“Mae gan Lywodraeth Cymru rai ysgogiadau economaidd pwysig a dylai fod yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r gymuned busnesau bach. Mae mynediad at gyllid, costau gweithredu uwch a phroblemau recriwtio i gyd yn effeithio ar hyder busnesau ac roedd yn amlwg o'r digwyddiad y gellir ac y dylid gwneud mwy i gefnogi busnesau bach o Fôn i Fynwy.”
“Mae Sir Benfro yn gartref i lawer o fusnesau bach arloesol a byddaf yn parhau i wneud fy ngorau glas i'w hyrwyddo ac annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau i'w cefnogi'n well.”