Yn ddiweddar, cynhaliodd yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, ddigwyddiad briffio mewn partneriaeth â Dirnad Economi Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn y Senedd. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i Aelodau'r Senedd a'u staff gael y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf am yr economi a'r materion cyfredol sy'n effeithio ar fusnesau bach yng Nghymru.
Meddai Mr Davies, "Rydyn ni’n gwybod bod busnesau bach yn teimlo'r pwysau ar hyn o bryd wrth i gost cynnal busnes barhau i gynyddu ac felly roedd yn bwysig clywed gan yr y Ffederasiwn Busnesau Bach a Dirnad Economi Cymru am rai o'r ffyrdd y gall llywodraethau yma yng Nghymru ac yn San Steffan eu cefnogi yn well."
"Rydyn ni’n gwybod bod busnesau bach yn cyfrif am oddeutu 99.4% o fusnesau yng Nghymru ac yn darparu 62.6% o gyflogaeth y wlad. Am bob £1 sy'n cael ei wario gyda busnesau bach yn y gymuned leol, mae 63c yn cael ei ail-wario yn yr ardal leol - ac felly ni allwn danbrisio eu pwysigrwydd i'n cymunedau lleol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ni gael trafodaeth onest am rai o'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu a sut y gall llywodraethau helpu ar hyn o bryd."
"Mae gan Lywodraeth Cymru rai ysgogiadau economaidd sylweddol ac mae'n rhaid iddi wneud popeth o fewn ei gallu i greu amodau ar gyfer twf yng Nghymru, drwy fuddsoddi mewn sgiliau, gwella mynediad at gyllid, a diwygio ein system gynllunio. Byddaf yn parhau i godi'r materion hyn gyda Gweinidog yr Economi ac yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i gefnogi ein busnesau bach."