Skip to main content
Banner image for

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH

Paul Davies yn codi cymorth mewn ardaloedd gwledig a chymorth Cymraeg mewn dadl am ddementia yn y Senedd

  • Tweet
Dydd Iau, 30 Medi, 2021

Mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd lleol, wedi cymryd rhan mewn dadl yn y Senedd ar ddementia ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig. Galwodd hefyd ar Weinidogion i sicrhau bod cymorth Cymraeg ar gael i bawb sydd ei angen.

Meddai Mr Davies: “Amcangyfrifir bod oddeutu 1300 o bobl yn byw gyda dementia ym Mhreseli Sir Benfro ac er bod y bobl hynny’n byw yn y gymuned, mae llawer ohonynt yn teimlo nad ydynt yn rhan ohoni. Rwy’n gwerthfawrogi bod darparu cymorth a gofal priodol i’r rhai sy’n byw gyda dementia mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn heriol, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth, ymwybyddiaeth gyffredinol o ddementia a mynediad at gymorth Cymraeg. Fodd bynnag, mae’n rhaid gwneud mwy i alluogi pobl sy’n byw gyda dementia mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro er mwyn iddynt allu teimlo yn fwy hyderus pan fyddant allan yn y gymuned. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ledled y Sir ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny a rhannu arfer gorau mor eang â phosibl, er mwyn i fwy a mwy o bobl yn Sir Benfro a thu hwnt allu elwa.”

  • Assembly News

You may also be interested in

NFU

Paul Davies yn dathlu #WythnosFfermioCymreig yn y Senedd

Dydd Iau, 9 Mehefin, 2022

Ymunodd Paul Davies, yr aelod lleol o'r Senedd, â chydweithwyr a chynrychiolwyr yr NFU i ddathlu wythnos ffermio Cymreig yn y Senedd.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2022 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree