Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, yn cefnogi’r Wythnos Atal Canser. Rhwng 19 a 25 Chwefror, mae Cronfa Ymchwil Canser y Byd yn cynnal Wythnos Atal Canser 2024 a'r thema eleni yw gweithgarwch corfforol.
Nod yr Wythnos Atal Canser eleni yw codi ymwybyddiaeth o fanteision cadarnhaol bod yn egnïol ac mae'r ymgyrch “Make Your Move" yn ceisio annog pobl i fod yn fwy egnïol yn eu bywydau bob dydd.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n falch o gefnogi’r Wythnos Atal Canser ac rwy'n annog pawb ledled Sir Benfro i gymryd rhan yn yr ymgyrch Make Your Move. Gwyddom fod bod yn gorfforol egnïol eisoes yn dda i'n hiechyd a'n lles, ond mae tystiolaeth gref hefyd fod bod yn egnïol yn lleihau'r risg o lawer o ganserau hefyd.
"Does dim rhaid i fod yn fwy egnïol bob dydd olygu rhedeg marathon. Mae cant a mil o ffyrdd y gallwn ni fod ychydig yn fwy egnïol gydol y dydd - felly beth am i ni fod yn greadigol! Hyd yn oed os yw'n rhywbeth mor syml â loncian yn y fan a'r lle wrth i’r tegell ferwi, mae'r cyfan yn helpu."
"Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Ymchwil Canser y Byd, felly cymerwch eiliad i ddarllen eu cynghorion ar sut i fod yn fwy egnïol, ac ewch ati i ddangos eich cefnogaeth i Wythnos Atal Canser 2024."