
Yn ddiweddar, mynychodd y gwleidyddion lleol Paul Davies a Samuel Kurtz dderbyniad yn y Senedd i gefnogi’r gymuned clefyd niwronau motor yng Nghymru.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r byd ymchwil a’r diwydiant fferyllol wedi dangos diddordeb cynyddol yng nghlefyd motor niwron (MND). Mae cynnydd mewn astudiaethau ymchwil a threialon clinigol ledled y byd wedi cynnig gobaith newydd wrth chwilio am driniaethau effeithiol ar gyfer MND, ac yn y pen draw triniaeth i gael gwellhad, yn ogystal â manteision posibl ar gyfer clefydau niwroddirywiol eraill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd rhagor o ymwybyddiaeth o’r angen i ehangu mynediad at ymchwil MND gan bobl sy’n byw gyda MND yng Nghymru. Er bod gwaith ymchwil mewn labordy wedi cael ei gynnal, mae’r gallu i fanteisio ar dreialon clinigol wedi bod yn gyfyngedig.
Yn nerbyniad y Senedd, clywodd Mr Davies a Mr Kurtz gan Gymdeithas MND a Rhwydwaith Gofal ac Ymchwil MND De Cymru am y gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf a chynlluniau ar gyfer datblygu ymchwil MND yng Nghymru yn y dyfodol.
Dywedodd Mr Davies, “Roedd yn ysbrydoliaeth dysgu mwy am yr ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, a thriniaethau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg. Mae clefyd niwronau motor yn glefyd dinistriol, nad oes gwella ohono, ac mae’n hanfodol bod Llywodraethau ar bob lefel yn ymrwymo i ddeall y clefyd ymhellach drwy gomisiynu rhagor o waith ymchwil a sicrhau bod pobl ag MND yn gallu byw mor ddiogel ac mor annibynnol â phosibl.”
“Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn gwaith ymchwil mawr ei angen a byddaf yn parhau i godi’r mater hwn yn y Senedd bob cyfle a gaf.”
Ychwanegodd Mr Kurtz, “Mae’r gwasanaethau y mae’r Gymdeithas MND yn eu cynnig yn amhrisiadwy i’r rhai sy’n eu derbyn. Boed hynny’n waith ymchwil arloesol, yn gymorth ariannol neu’n gymorth i gael gafael ar wasanaethau lleol.
“Mae hwn yn glefyd nad oes gwella ohono ar hyn o bryd. Dyna pam rydw i wedi ymrwymo i weithio gyda’r Gymdeithas MND i sicrhau bod gwaith ymchwil i’r clefyd hwn yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei angen o du Llywodraeth Cymru.”