Ymunodd Aelodau o'r Senedd, Paul Davies a Samuel Kurtz, â'r NSPCC a'u masgot Pantosorws, ar ymweliad diweddar â'r Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd Pantosorws yn cwrdd â gwleidyddion i dynnu sylw at Ddiwrnod Siarad Pants Cymru yn dilyn cyflwyno llyfr plant i feithrinfeydd, ysgolion cynradd a llyfrgelloedd gyda'r nod o helpu i gadw plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol.
Mae'r llyfr Pantosorws a phŵer PANTS yn gwbl ddwyieithog a'i nod yw annog trafodaeth rhwng plant a rhieni. Mae'r ymgyrch Siarad PANTS yn cydnabod y gall sgyrsiau syml wneud gwahaniaeth mawr.
I helpu i nodi Diwrnod Siarad PANTS, mae cystadleuaeth wedi'i lansio ar gyfer plant ysgol oedran cynradd ac iau, lle gall ysgolion fod yn greadigol, defnyddio adnoddau Siarad PANTS, creu arddangosfa Siarad PANTS, i ennill bag nwyddau ac ymweliad gan Pantosorws i'w hysgol.
Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Samuel Kurtz AS
"Mae'r fenter Siarad PANTS wedi tanio dychymyg pobl mewn gwirionedd ac wedi galluogi pobl i drafod pwnc pwysig ond anghyfforddus mewn ffordd sensitif a chefnogol.
"Mater i bob un ohonom yw dod yn effro i arwyddion o gam-drin rhywiol a thrwy normaleiddio sgyrsiau ar y pwnc, trwy ddefnyddio adnoddau fel llyfr a masgot Pantosorws, bydd y dasg hon ganwaith haws."
Ychwanegodd Paul Davies AS:
"Rwy'n falch o gefnogi'r ymgyrch Siarad Pants ac annog rhieni a gwarcheidwaid i wneud defnydd o'r adnoddau sydd ar gael gan yr NSPCC.
Rwy'n gobeithio y bydd pob ysgol gynradd ledled yr ardal yn cymryd rhan ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â Pantosorws os yw ysgol yn fy etholaeth yn ddigon ffodus i ennill."