Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Gwasanaethau strôc ar frig agenda Aelod o’r Senedd lleol

  • Tweet
Dydd Mercher, 17 Mai, 2023
  • Newyddion Cynulliad
Paul Davies MS

Mae’r Aelod o’r Senedd Paul Davies AS wedi bod yn trafod gwasanaethau strôc yn y Senedd gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AS. Dywedodd Mr Davies wrth y Prif Weinidog fod y graddau diweddaraf gan Raglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel (SSNAP) yn golygu bod angen gwelliannau difrifol mewn gofal strôc yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mynychodd Mr Davies dderbyniad i drafod dyfodol gwasanaethau strôc hefyd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i glywed mwy gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan strôc, dysgu am waith parhaus Gweithrediaeth GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau strôc a chysylltu â’r gymuned strôc ehangach yng Nghymru.

Dywedodd Mr Davies, “Mae strôc yn bedwerydd ar y rhestr o gyflyrau sy’n lladd yng Nghymru ac mae’n hanfodol bod gwelliannau’n cael eu gwneud ar fyrder, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Mae’n siomedig iawn i weld bod graddau wedi gostwng ar gyfer gwasanaethau adsefydlu fel therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi lleferydd ac iaith. Mae’n hanfodol bod y gwasanaethau hyn yn derbyn y cymorth a’r adnoddau angenrheidiol i ddarparu gofal effeithiol i gleifion strôc yn Sir Benfro a byddaf yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd buddsoddi yn y gwasanaethau hyn bob cyfle a gâf.”

 

Dolen i ffigurau SSNAP ar gyfer gwasanaethau strôc – https://www.strokeaudit.org/results/Clinical-audit/National-Results.aspx

Mae cofnod o’r drafodaeth yn y Senedd rhwng Paul a’r Prif Weinidog ar gael yma – https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/13344

Llun – yr Aelod o’r Senedd Paul Davies mewn digwyddiad i drafod dyfodol gwasanaethau strôc yng Nghymru.

You may also be interested in

Paul Davies MS

AS lleol yn ymweld â siop DIY Days

Dydd Llun, 22 Mai, 2023

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, wedi ymweld â siop DIY newydd ym Mhrendergast, Hwlffordd, ar gyffordd ffyrdd Aberteifi ac Abergwaun.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2023 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree