Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Poeni ac Aros Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, mae'r Aelodau o'r Senedd Samuel Kurtz AS a Paul Davies AS wedi mynegi eu pryder ynghylch faint o amser mae plant yn aros i gael triniaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn yr adroddiad yn dangos bod nifer y plant sy'n aros ar y llwybr pediatreg wedi cynyddu o 1,299 i 1,526 rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Tachwedd 2023, sy'n gynnydd o 17%, o gymharu â gostyngiad o 4.5% yn genedlaethol yng Nghymru dros yr un cyfnod. Dangosodd yr un adroddiad fod dros 595 o bobl dan 18 oed yn aros dros flwyddyn am driniaeth, a bod 66 yn aros 2 flynedd a mwy. Nid yw ffigurau cleifion allanol ddim gwell, gyda'r nifer sy'n aros mwy na deuddeg mis wedi codi o 183 ym mis Mehefin 2023 i 335 ym mis Ionawr 2024.
Meddai’r Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Samuel Kurtz: “Mae'r ffigurau hyn yn destun pryder mawr, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos eu bod yn symud i'r cyfeiriad arall o gymharu â’r darlun cenedlaethol sy'n dangos gwelliant.
“Mae angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fynd i'r afael â'r sefyllfa fel mater o frys cyn i niwed hirdymor gael ei wneud i iechyd plant yn y Gorllewin.
“Nid yw'n iawn nad yw rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael y gofal iechyd sydd ei angen arnynt. Byddaf yn codi hyn gyda'r Bwrdd Iechyd i ganfod pa newidiadau sy'n bosibl i droi'r sefyllfa hon ar ei phen.”
Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies: “Cefais sioc o glywed am yr amseroedd aros hir sy’n wynebu pobl ifanc dan 18 oed wrth geisio cael gofal iechyd yn ein hysbytai lleol. Y tu ôl i'r ffigurau hynny mae yna blant sydd angen cymorth a thriniaeth yn druenus.
“Mae gorfod aros am ddwy flynedd a mwy yn ddigon i beri gofid i unrhyw un, heb sôn am blant, felly mae'n rhaid gwneud ymdrechion nawr i leihau amseroedd aros. Rwy'n ddiolchgar bod Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru wedi tynnu ein sylw at y mater hwn, a bydd Samuel a minnau yn herio Llywodraeth Cymru ar y ffigurau hynod siomedig hyn.