Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Aelod o'r Senedd Paul Davies yn ymweld â Chaer Dale

  • Tweet
Dydd Llun, 25 Medi, 2023
  • Newyddion Lleol
Paul

Yn ddiweddar, ymwelodd yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro â Chanolfan Maes Caer Dale (Dale Fort), canolfan breswyl yn ne'r Sir sy'n cynnal teithiau ysgol a phrifysgol. Cyfarfu Mr Davies â Tom Stamp, rheolwr y Ganolfan Breswyl i ddysgu mwy am ei waith ac i drafod y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) arfaethedig, a gyflwynwyd gan ei gyd-Aelod o'r Senedd, Sam Rowlands AS.

Meddai Mr Davies, "Mae Canolfan Maes Caer Dale yn safle trawiadol sy'n croesawu grwpiau ysgol a phrifysgol ac yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc brofi taith breswyl awyr agored fel rhan o'u taith addysgol. Mae'r cyfleusterau ar y safle o'r radd flaenaf ac mae'r staff yn angerddol am sicrhau bod plant yn cael y cyfle i fwynhau taith breswyl."

Ychwanegodd: "Fe wnaethon ni hefyd drafod y Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) arfaethedig, y mae fy nghyd-Aelod Sam Rowlands wedi bod yn eiriol drosto yn y Senedd. Mae'r Bil yn ceisio sicrhau ei bod yn ofyniad statudol fod ysgolion a gynorthwyir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cyllid i sicrhau bod pob person ifanc yn cael o leiaf un wythnos o addysg awyr agored breswyl ar ryw adeg yn ystod eu blynyddoedd ysgol."

Meddai Mr Stamp, "Roedden ni’n falch iawn y gallai Paul ddod i Gaer Dale i weld gyda’i lygaid ei hun beth rydyn ni’n ei gynnig i'r tua 3000 o fyfyrwyr sy'n ymweld â ni yn Sir Benfro bob blwyddyn ac rydyn ni’n gobeithio ei groesawu'n ôl cyn bo hir."

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn galw am bwyll ynghylch Cynlluniau Dadleuol ar gyfer Gwyliau Ysgol

Dydd Iau, 23 Tachwedd, 2023

Mae’r bwriad i ddiwygio gwyliau ysgol yng Nghymru yn destun pryder i’r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies AS. Gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru olygu cwtogi wythnos ar wyliau haf ysgolion ac ymestyn gwyliau hanner tymor mis Hydref o wythnos i bythefnos.

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Hawlfraint 2023 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Made in Britain
Wedi’i bweru gan Bluetree