
Mae'r Aelod o'r Senedd, Paul Davies, wedi beirniadu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fwrw ymlaen â throsglwyddo cleifion o feddygfa Dewi Sant i feddygfeydd mewn mannau eraill yn Sir Benfro. Mewn cyfarfod bwrdd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2024, cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd hefyd ei fod mewn trafodaethau gyda Shalom House yn Nhyddewi ynglŷn â sefydlu meddygfa gangen i ddarparu rhai gwasanaethau.
Meddai Mr Davies, “Mae'n gywilyddus bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn, er gwaethaf y gwrthwynebiad ffyrnig a ddangoswyd gan y gymuned leol.
“Cyn bo hir, dinas Tyddewi fydd yr unig ddinas yn y Deyrnas Unedig heb feddygfa, ac rwy’n gresynu bod y Bwrdd Iechyd wedi caniatáu i hyn ddigwydd. I lawer o bobl, mae'r teithio i feddygfeydd eraill o Dyddewi yn rhy bell ac yn peri gormod o straen ac nid yw ymrwymiad gwan i gydlynu meddygfeydd gydag amseroedd bysiau yn mynd i ddal dŵr.”
“Mae trigolion wedi bod yn ceisio ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd ac annog y rheolwyr i edrych ar amrywiaeth o opsiynau eraill ac mae'n ymddangos nad yw'r Bwrdd Iechyd yn barod i ystyried barn pobl Tyddewi. Mae pobl Tyddewi’n haeddu gwell, ac rwy'n gobeithio y gall pob cynrychiolydd gwleidyddol yn Sir Benfro gydweithio i sefyll dros y gymuned leol.”
Gallwch weld datganiad y Bwrdd Iechyd yma - https://biphdd.gig.cymru/newyddion/datganiadau-ir-wasg/cynlluniau-ar-gyfer-meddygfa-penrhyn-yn-symud-ymlaen/