Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi rhybuddio y bydd goblygiadau enfawr i'r penderfyniad i dorri taliadau tanwydd gaeaf yn Sir Benfro. Dim ond pensiynwyr sy'n hawlio credyd pensiwn fydd yn derbyn taliad o hyd at £300 y gaeaf hwn i helpu gyda biliau gwresogi uwch a chredir y bydd y penderfyniad i dorri taliadau tanwydd gaeaf yn effeithio ar tua 21,566 o bensiynwyr yng Nghanolbarth a De Sir Benfro.
Meddai Mr Davies, "Bydd y misoedd nesaf yn anghyfforddus iawn i lawer o bensiynwyr lleol, a fydd nawr yn methu derbyn taliad tanwydd gaeaf. Roedd y taliadau hyn yn achubiaeth i bensiynwyr ac mae'r penderfyniad i'w torri gan Lywodraeth y DU yn galongaled ac yn greulon.
"Mae'r polisi wedi cael ei ruthro heb ystyried yr effaith y bydd yn ei chael - ac mae'n siomedig nad yw ASau wedi gwneud mwy i graffu ar y polisi hwn a dwyn Llywodraeth Lafur y DU i gyfrif. Bydd miloedd o bensiynwyr lleol yn Sir Benfro yn mynd heb y gefnogaeth werthfawr hon y gaeaf hwn oherwydd penderfyniad Llywodraeth Lafur y DU i weithredu'r polisi. Mae'n hollol warthus ac mae pensiynwyr Sir Benfro yn haeddu gwell."