
Roedd cleifion canser a'u teuluoedd yn y Senedd yr wythnos hon i drafod y pum prif flaenoriaeth sy'n bwysig iddyn nhw, yng nghwmni Gofal Canser Tenovus. Ymunodd Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd lleol, â chyd-Aelodau a chefnogwyr o bob cwr o Gymru i glywed mwy gan gleifion a'u clinigwyr am yr hyn y maen nhw ei eisiau gan wasanaethau canser.
Cynhaliwyd y digwyddiad, gan gynnwys trafodaeth banel, yn y Senedd a ddaeth ag aelodau o Gymuned Ganser Cymru Gyfan at ei gilydd, menter unigryw a lansiwyd gan Gofal Canser Tenovus i uno pobl o bob cwr o'r wlad sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser - naill ai'n bersonol neu yn sgil anwylyd.
Mae tua 200 o unigolion o bob cwr o Gymru bellach yn rhan o'r gymuned, ac yn cyfrannu eu mewnwelediad a'u profiadau gwerthfawr gan helpu i lywio penderfyniadau polisi, datblygu gwasanaethau, ac ymchwil. Roedd yr achlysur yn rhan o Arddwest Haf flynyddol Gofal Canser Tenovus.
Croesawyd gwesteion i’r digwyddiad yn y Senedd gan berfformiad teimladwy gan Gôr Tenovus 'Sing with Us', o Abertawe, sy'n cynnwys unigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser. Diolch i’w lleisiau pwerus, cafwyd naws dwymgalon i'r digwyddiad, a oedd hefyd yn cynnwys straeon personol gan aelodau o Gymuned Ganser Cymru Gyfan.
Meddai Mr Davies, "Roedd hi’n fraint ymuno â Gofal Canser Tenovus a chlywed yn uniongyrchol gan y rhai y mae canser wedi effeithio ar eu bywydau. Mae lleisiau cleifion mor bwysig wrth lunio polisïau a deall yr heriau y mae cynifer o bobl sy'n byw gyda chanser yn eu hwynebu. Mae Gofal Canser Tenovus a Chymuned Ganser Cymru Gyfan wedi gweithio'n galed i hyrwyddo lleisiau cleifion ac fel rhywun sy'n byw gyda chanser fy hun, rwy'n falch o gefnogi eu gwaith."