Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn ymweld ag Ysgol y Goedwig

  • Tweet
Dydd Gwener, 1 Tachwedd, 2024
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae'r Aelod o’r Senedd lleol, Paul Davies, wedi ymweld ag Ysgol y Goedwig Sir Benfro, cyfleuster addysg awyr agored sydd wedi'i leoli ger Hwlffordd. Cafodd Mr Davies daith o amgylch y cyfleuster a chyfarfod â Kate Morgan i glywed mwy am y math o brofiadau y mae Ysgol y Goedwig yn eu darparu. Yna, cymerodd Mr Davies ran mewn gweithgaredd cerfio pwmpen gyda Kate a rhai o'r plant.

Meddai Mr Davies, "Rydw i wedi bod yn cefnogi dysgu yn yr awyr agored ers cyn cof ac felly roedd hi’n bleser ymweld ag Ysgol y Goedwig a dysgu mwy am eu cyfleusterau a'r math o weithgareddau y maen nhw’n eu darparu."

"Mae Ysgol y Goedwig yn cynnig profiadau cynhwysol a hygyrch mewn coedwigoedd, ac roedd yn amlwg i mi fod y plant yn ymgysylltu'n llawn ac yn frwdfrydig iawn yn ystod y sesiwn cerfio pwmpen."

"Mae Kate a'i thîm wedi gwneud gwaith gwych wrth ddatblygu Ysgol y Goedwig a byddwn yn annog rhieni ledled Sir Benfro i ddarganfod mwy am yr hyn y mae'r Ysgol yn ei gynnig."

You may also be interested in

Paul

Cyfraddau absenoldeb ysgolion syfrdanol yn sbarduno pryder yn Sir Benfro

Dydd Iau, 3 Gorffennaf, 2025
Mae Aelodau o'r Senedd Sir Benfro, Paul Davies a Samuel Kurtz, wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Sir Penfro yn galw am weithredu ar unwaith i fynd i'r afael â chyfraddau absenoldeb cynyddol disgyblion mewn ysgolion lleol.Mae ffigurau newydd yn datgelu darlun brawychus ledled Cymru, gydag absenolde

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Hawlfraint 2025 Paul Davies Preseli Penfro. Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree