
Wrth ymateb i benderfyniad Cyngor Sir Penfro i beidio â gweithredu’r Ardoll Ymwelwyr, dywedodd yr Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies:
"Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud y penderfyniad cywir i beidio â gweithredu’r Ardoll Ymwelwyr. Mae'r sector wedi profi blynyddoedd anodd ac mae effaith gronnol nifer o bolisïau a newidiadau wedi pentyrru’r pwysau ar fusnesau twristiaeth ledled y sir.
"Mae twristiaeth yn rhan enfawr o economi Sir Benfro. Mae llawer o bobl leol yn gweithio yn y diwydiant neu'n adnabod rhywun sy'n gwneud hynny. Mae diogelu cynaliadwyedd y sector am flynyddoedd i ddod yn allweddol ac rwy'n credu y bydd gweithredwyr ledled Sir Benfro yn rhoi ochenaid fawr o ryddhad wrth glywed penderfyniad y Cyngor i beidio â gweithredu'r ardoll hon. “
"Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn atal Cynghorau yn y dyfodol rhag gweithredu'r polisi niweidiol hwn. Byddaf yn parhau i wrthwynebu'r Ardoll Ymwelwyr yn y Senedd ac yn sefyll dros fusnesau twristiaeth ledled Sir Benfro."