
Yn ddiweddar, mynychodd yr Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies arddangosfa gan y Mudiad Ffermwyr Ifanc (CFfI) yn y Senedd. Noddwyd y digwyddiad gan yr Aelod o’r Senedd cyfagos, Samuel Kurtz, ac roedd yn dathlu'r gwaith trawiadol sy'n cael ei wneud gan y mudiad i gefnogi a grymuso pobl ifanc ledled Cymru.
Clywodd Mr Davies adroddiadau uniongyrchol gan ffermwyr ifanc o Gymru, a rannodd sut mae'r mudiad wedi helpu eu datblygiad personol a phroffesiynol. Canmolodd Mr Davies CFfI am ei rôl hanfodol yn meithrin ymdeimlad o gymuned, arweinyddiaeth a chyfle ymhlith ieuenctid Cymru, ac ail-ategodd ei gefnogaeth i waith parhaus y mudiad.
Meddai Mr Davies, "Roeddwn i’n falch o ddangos fy nghefnogaeth i fudiad CFfI unwaith eto. Roedd hi’n ysbrydoledig clywed gan gymaint o ffermwyr ifanc am eu profiadau mewn clybiau ffermwyr ifanc a sut mae hynny wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau gydol oes, magu hyder, a chysylltu ag unigolion o'r un anian."
Ychwanegodd, "Mae clybiau ffermwyr ifanc ledled Cymru yn gwneud llawer iawn o waith da, gan gefnogi elusennau lleol a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc. Maen nhw hefyd yn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth ac yn helpu i gadw'r Gymraeg yn fyw."