
Mynychodd yr Aelod o'r Senedd Paul Davies agoriad mawreddog 'The Dizzy Bear', tŷ coffi cymunedol a menter gymdeithasol ym marina Aberdaugleddau.
Mae tŷ coffi The Dizzy Bear wedi'i sefydlu gan yr elusen iechyd meddwl leol, Sefydliad Megan's Starr, i gefnogi'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn eu canolfan iechyd meddwl.
Gwahoddwyd Mr Davies i'r agoriad gyda'r AS lleol Henry Tufnell a Chris Martin, Dirprwy Arglwydd Raglaw Dyfed a dysgodd fwy am sut mae'r tŷ coffi yn cefnogi Sefydliad Megan’s Starr.
Mr Davies, "Fe wnaeth The Dizzy Bear greu argraff fawr arnaf i. Mae'n dŷ coffi gwych ac mae Nicola a'r tîm yn Sefydliad Megan's Starr wedi gwneud gwaith ardderchog."
"Mae'r tŷ coffi yn cynnig lle i bawb ddod at ei gilydd am baned a chacen ac mae pob dim sy’n cael ei brynu yn helpu i ariannu'r gwasanaethau cwnsela proffesiynol trwy ganolfan gymorth Megan’s Starr."
"Mae The Dizzy Bear hefyd yn academi hyfforddi i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad a dod yn fwy hyderus ar y daith. Mae yna emporiwm ffasiwn bach ar y safle, sy'n hyrwyddo ffasiwn cynaliadwy ac mae yna hefyd ganolfan chwarae gemau, gyda digon o gemau i gwsmeriaid eu mwynhau - felly os yw hyn yn swnio fel rhywbeth y gallai fod gennych chi ddiddordeb ynddo, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw y tro nesaf y byddwch yn yr ardal."