Mae Aelod o’r Senedd dros Geredigion Penfro, Paul Davies, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Banc Barclays, Mr Vim Maru, yn annog y banc i ailagor canghennau yn yr ardal leol, gyda ffocws penodol ar Hwlffordd ac Aberystwyth.
Cysylltodd Mr Davies â'r Prif Weithredwr ar ôl cael gwybod bod Barclays yn ystyried ailagor rhai canghennau stryd fawr a chryfhau ei bresenoldeb mewn cymunedau lleol. Anogodd Mr Davies y Prif Weithredwr i ystyried ailagor canghennau Hwlffordd ac Aberystwyth yn gyntaf ac yna ystyried ei ganghennau yn Ninbych-y-pysgod ac Aberteifi.
Dywedodd Mr Davies am y mater: “Mae’n destun siom mawr nad oes gan Fanc Barclays ganghennau yn Sir Benfro na Cheredigion ar hyn o bryd. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol yn y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gwsmeriaid personol a chwsmeriaid busnes ledled y ddwy sir.
“Fodd bynnag, rwy’n croesawu cyhoeddiad diweddar y banc ac rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weithredwr i annog Barclays i fanteisio ar y cyfle hwn i adfer gwasanaethau bancio yn ein hardal drwy ailagor canghennau yn Sir Benfro a Cheredigion.
“Mae’r gallu i gael gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn hanfodol i lawer o drigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol, a gobeithio y bydd y banc yn ystyried o ddifrif ailagor canghennau stryd fawr yng ngorllewin Cymru.”