Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn galw am ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru i achub gwasanaethau iechyd lleol

  • Tweet
Dydd Iau, 25 Mehefin, 2026
  • Newyddion Lleol

Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi siarad mewn dadl yn y Senedd am israddio gwasanaethau iechyd lleol ar draws y Gorllewin ac wedi annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd ac atal y Bwrdd Iechyd rhag cyflwyno unrhyw gynigion a fydd yn arwain at lai o wasanaethau yn ysbytai Llwynhelyg a Bronglais.

Siaradodd Mr Davies mewn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar wasanaethau ysbytai a chau ysbytai, gan dynnu sylw at benderfyniad diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael gwared ar lawdriniaethau cyffredinol brys o ysbyty Llwynhelyg a'r bwriad i chwyldroi gwasanaethau strôc yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Yn dilyn y ddadl, dywedodd Mr Davies, "Mae cymunedau ledled y Gorllewin yn poeni’n fawr am ddyfodol eu gwasanaethau ysbyty lleol ac maen nhw eisiau i Lywodraeth Cymru ymyrryd ac atal y Bwrdd Iechyd lleol rhag canoli eu gwasanaethau ymhellach i ffwrdd – yn enwedig pan wnaeth Plaid Cymru ymgyrchu yn erbyn cynigion y Bwrdd Iechyd yn ystod etholiadau'r Senedd.

"Mae cleifion sy'n byw yn Sir Benfro a Cheredigion yn haeddu gofal iechyd diogel a hygyrch yn agosach at eu cartrefi – ni ddylent orfod teithio ymhellach i ffwrdd am wasanaethau hanfodol."

"Rydyn ni'n gwybod bod llywodraethau blaenorol Cymru wedi sefyll yn ôl a gwneud dim, ac rwy'n gobeithio na fydd y Llywodraeth newydd hon yn dewis dilyn yr un llwybr. Mae angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd ar unwaith i ddiogelu gwasanaethau a sicrhau eu bod yn aros yn ysbytai Llwynhelyg a Bronglais."

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn Galw ar Barclays i Ailagor Canghennau Banc Lleol

Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf, 2026
Mae Aelod o’r Senedd dros Geredigion Penfro, Paul Davies, wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Banc Barclays, Mr Vim Maru, yn annog y banc i ailagor canghennau yn yr ardal leol, gyda ffocws penodol ar Hwlffordd ac Aberystwyth.Cysylltodd Mr Davies â'r Prif Weithredwr ar ôl cael gwybod bod Barclays yn y

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree