Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn galw am adolygiad o ffioedd parcio ceir yng Ngheredigion

  • Tweet
Dydd Llun, 18 Mai, 2026
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae'r Aelod o'r Senedd dros Geredigion Penfro, Paul Davies, wedi galw ar Gyngor Sir Ceredigion i adolygu ei bolisi ar ffioedd parcio ar frys, yn dilyn pryderon cynyddol gan fusnesau lleol am yr effaith negyddol y mae ffioedd yn ei chael ar fasnach ac ar y niferoedd sy’n ymweld â chanol y trefi.

Ysgrifennodd Mr Davies at Arweinydd y Cyngor i dynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu busnesau ar draws trefi Ceredigion, lle mae costau parcio cynyddol yn atal pobl rhag ymweld â'r strydoedd mawr lleol. Anogodd yr awdurdod lleol i wrando'n astud ar y pryderon sy'n cael eu codi ac i adolygu'r ffioedd hyn.

Meddai Mr Davies:

"Mae ffioedd parcio ceir yn ychwanegu rhwystr arall i bobl sy'n ymweld â'n trefi a'n strydoedd mawr a gall fod yn niweidiol i fusnesau lleol, ar adeg pan mae llawer o fusnesau eisoes yn wynebu pwysau economaidd sylweddol.

"Ein strydoedd mawr yw asgwrn cefn ein cymunedau ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn yr economi leol. Os yw pobl yn meddwl ddwywaith cyn ymweld oherwydd costau parcio, yna bydd busnesau yn anochel yn dioddef. Bydd hyn nid yn unig yn achosi problemau yn y tymor byr ond mae perygl y bydd hefyd yn achosi difrod hirdymor i fywiogrwydd ein trefi.

"Mae'n rhaid i'r Cyngor weithredu ar y pryderon dilys sy'n cael eu codi ac adolygu ei bolisi parcio ar unwaith. Dylai'r ffocws fod ar annog ymwelwyr, cefnogi masnach leol, a sicrhau bod ein canol trefi yn parhau i fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb."

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod cyflwyno Ffeibr Llawn

Dydd Iau, 21 Mai, 2026
Mae Paul Davies, AS Ceredigion Penfro, wedi cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod y cynnydd o ran cyflwyno band eang ffeibr llawn ledled y Gorllewin, gan godi pryderon am gysylltedd mewn rhannau o'r rhanbarth.Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r lefel isaf o gwmpas ffeibr llawn yng Nghymru, se

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree