Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies AS yn erbyn cynigion posibl i gau Ysgol Clydau

  • Tweet
Dydd Mercher, 10 Rhagfyr, 2025
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Paul Davies, wedi mynegi ei wrthwynebiad i gynnig Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Clydau, gan ddisgrifio amseriad yr ymgynghoriad – ychydig cyn y Nadolig – fel un "pryderus iawn" ac annheg i deuluoedd lleol. Tynnodd Mr Davies sylw hefyd at yr effaith y byddai cau Ysgol Clydau yn ei chael ar y gymuned leol a'r Gymraeg.

Meddai Mr Davies: "Mae Ysgol Clydau yn rhan hanfodol o'r gymuned leol, a byddai ei chau yn cael effaith enfawr ar yr ardal leol. Mae'n annerbyniol bod yr ymgynghoriad hwn wedi'i lansio heb unrhyw drafodaeth gyda rhanddeiliaid lleol ac mae ei gyhoeddi ychydig cyn y Nadolig yn siomedig iawn."

"Mae gan Ysgol Clydau enw da iawn ac yn adroddiad arolwg diweddaraf yr ysgol gan Estyn, tynnodd yr arolygwyr sylw at berthynas gref rhwng staff a disgyblion a chwricwlwm sy'n gwneud defnydd pwrpasol o'r ardal leol i danio chwilfrydedd. Byddai cau'r ysgol hon yn anfantais i deuluoedd lleol a byddai hefyd yn tanseilio ymdrechion i amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg yn y gymuned."

"Rhaid i Gyngor Sir Penfro sicrhau bod yr ymgynghoriad hwn yn ystyrlon, drwy wrando go iawn ar leisiau lleol a gweithio gyda chynrychiolwyr, rhieni a chymuned yr ysgol i ddod o hyd i ffordd ymlaen."

 

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn beirniadu penderfyniad y Bwrdd Iechyd ar Wasanaethau Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys

Dydd Iau, 19 Chwefror, 2026
Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi mynegi ei ddicter am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys o ysbyty Llwynhelyg.Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfarfod eithriadol o'r Bwrdd ar 18 a 19 Chwefror 2026 i wneud pende

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Preseli Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree