
Mae’r Aelod o'r Senedd Paul Davies wedi mynegi ei bryder am Brosiect Addasu Arfordir Niwgwl Cyngor Sir Penfro ac mae'n annog y Cyngor i weithio gyda'r gymuned ar ddatrysiad mwy costeffeithiol, amgylcheddol sensitif yn lle hynny. Disgwylir i gynlluniau presennol y Cyngor i ail-alinio’r ffordd gostio tua £40 miliwn a byddent yn tarfu ar fywyd gwyllt lleol.
Mae Mr Davies yn gweithio gyda'r Grŵp Cymunedol Sefyll dros Niwgwl (STUN - Stand up for Newgale Community Group) sydd wedi dylunio Cynllun Ail-alinio Traeth Niwgwl amgen a Chynllun Ail-alinio Marian Niwgwl sy'n mynd i darfu llai ac a fyddai'n arbed symiau enfawr o arian i'r Cyngor, a threthdalwyr lleol.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n siomedig iawn bod y Cyngor yn bwrw rhagddi â'i gynlluniau yn hytrach na gweithio gyda'r gymuned ar gynllun llawer mwy fforddiadwy. Rydyn ni'n gwybod bod y Cyngor yn cael trafferth ariannol ac eto rywsut, mae'n fodlon dod o hyd i filiynau o bunnoedd ar gyfer cynllun y mae'r gymuned leol yn ei wrthwynebu."
"Yn fy marn i, mae cynlluniau Cyngor Sir Penfro yn rhai gwael. Rhaid i unrhyw newidiadau i'r seilwaith yn Niwgwl ddiwallu anghenion y gymuned leol a dylai anelu at fod mor sensitif i'r amgylchedd â phosibl. Rwyf wedi codi hyn yn y Senedd, a byddaf yn gwneud hynny eto, gan annog Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i ymyrryd a chefnogi'r gymuned leol."