
Yn ddiweddar, cyfarfu Paul Davies, Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, â Chymdeithas Mudiadau Trafnidiaeth Gymunedol Sir Benfro (PACTO). Mae PACTO yn darparu gwasanaethau a chymorth i bobl nad oes ganddyn nhw eu trafnidiaeth eu hunain ac nad oes ganddyn nhw neu na allan nhw ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus confensiynol.
Bu Mr Davies yn trafod gwaith PACTO yn darparu atebion trafnidiaeth gymunedol mwy hygyrch yn Sir Benfro. Buont hefyd yn trafod prosiect Trawsnewid Trafnidiaeth Gymunedol PACTO a chanfyddiadau'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan PACTO y llynedd.
Dywedodd Mr Davies, "Mae PACTO yn gwneud gwaith gwych drwy helpu pobl i deithio ledled Sir Benfro ac rwy'n falch fy mod wedi cwrdd â'r tîm a dysgu mwy am eu gwaith."
"Mae PACTO yn chwarae rhan enfawr wrth wneud Sir Benfro yn lle llawer mwy hygyrch i bawb. Maen nhw'n helpu i alluogi pobl i deithio'n fwy rhydd ar draws Sir Benfro a byw'n fwy annibynnol.
"Dydy teithio ar draws Sir Benfro ddim heb ei heriau ac felly roedd yn wych siarad â thîm PACTO am sut maen nhw'n bwriadu trawsnewid teithio cymunedol ledled y sir ac adeiladu ar eu gwaith da yn ein cymunedau."