Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod cyflwyno Ffeibr Llawn

  • Tweet
Dydd Iau, 21 Mai, 2026
  • Newyddion Lleol
Paul

Mae Paul Davies, AS Ceredigion Penfro, wedi cwrdd ag Openreach Cymru yn y Senedd i drafod y cynnydd o ran cyflwyno band eang ffeibr llawn ledled y Gorllewin, gan godi pryderon am gysylltedd mewn rhannau o'r rhanbarth.

Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r lefel isaf o gwmpas ffeibr llawn yng Nghymru, sef dim ond 59%, gyda Cheredigion â’r ail lefel isaf ar 67%. Er bod cynnydd yn cael ei wneud, pwysleisiodd Mr Davies fod angen gwneud mwy i gau'r bwlch a sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl.

Dywedodd Mr Davies, "Mae ehangu band eang ffeibr llawn yn hanfodol i gefnogi twf economaidd, gwasanaethau cyhoeddus a chynhwysiant digidol ledled Cymru ac rydyn ni i gyd angen mynediad at fand eang cyflym, dibynadwy yn ein bywydau.

“Er bod y rhwydwaith ffeibr llawn bellach ar gael i 80% a mwy o adeiladau ledled Cymru, mae'r signal mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Cheredigion yn dangos nid da lle gellir gwell. Mae angen i ni weld ffocws cryfach ar yr ardaloedd hyn fel y gall trigolion a busnesau elwa ar yr un cyfleoedd â'r rhai mewn rhannau o Gymru sydd wedi'u cysylltu'n well.”

“Byddaf yn parhau i weithio gydag Openreach Cymru i sicrhau bod band eang yn cael ei gyflwyno mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Mae gwella seilwaith digidol yn hanfodol ar gyfer twf economaidd ac rydw i am sicrhau nad yw cymunedau yn Sir Benfro a Cheredigion yn cael eu gadael ar ôl.”

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn galw am weithredu ar TB buchol

Dydd Iau, 16 Gorffennaf, 2026
Mae AS Ceredigion Penfro, Paul Davies, wedi galw unwaith eto am gymryd camau i fynd i'r afael â TB buchol ledled Cymru. Siaradodd Mr Davies mewn dadl ar TB buchol yn y Senedd, gan dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae'r clefyd yn parhau i'w chael ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig.G

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree