Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home
  • Newyddion
  • Cefndir Paul
  • Ymgyrchoedd
  • Cymorthfeydd
  • Cysylltu â Paul
  • ENGLISH
Site logo

Paul Davies yn croesawu ymchwiliad i gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol

  • Tweet
Dydd Iau, 19 Mehefin, 2025
  • Newyddion Cynulliad
Paul

Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi croesawu'r cyhoeddiad "hirddisgwyliedig" ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU i gyffredinrwydd gangiau sy’n meithrin perthynas amhriodol (gangiau grwmio) - ac wedi annog Llywodraeth Cymru i gydweithredu'n llawn.

Daeth yr alwad ar ôl i Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar AS, godi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog yn y Senedd, gan bwyso arni i ryddhau gohebiaeth berthnasol a chytuno i gwrdd â goroeswr cam-drin o Gymru.

Fe wnaeth Mr Millar - arweinydd cyntaf plaid yng Nghymru i alw am ymchwiliad o'r fath – herio’r  Prif Weinidog dros wrthodiad cynharach ei llywodraeth i gefnogi ymchwiliad penodol i Gymru. Rhybuddiodd, pe bai Gweinidogion Llafur wedi gweithredu ym mis Chwefror, y byddai ymchwiliad pwrpasol i Gymru eisoes ar y gweill.

Roedd cwestiynau Mr Millar yn dilyn sgyrsiau gydag "Emily," goroeswr o Gymru a gafodd ei meithrin i berthynas amhriodol yn ei harddegau, ei masnachu ledled y DU, a'i threisio fwy na mil o weithiau gan gangiau o ddynion.

Anogodd Mr Millar y Prif Weinidog hefyd i sicrhau bod cyrff datganoledig - gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol, y GIG, a'r Comisiynydd Plant - yn cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad.

Yn dilyn cyhoeddi’r ymchwiliad ledled y DU, dywedodd Mr Davies: 

"Nawr bod yna ymchwiliad i gangiau meithrin perthynas amhriodol wedi'i gadarnhau, rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithredu'n llawn trwy sicrhau bod yr holl ohebiaeth berthnasol gyda'r heddlu, y cynghorau a’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei chyhoeddi."

"Rhaid clywed gan ddioddefwyr a goroeswyr dewr fel Emily ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog o leiaf yn cwrdd â hi i wrando ar ei phrofiad.

"Mae'n rhaid i ni nawr wneud yn siŵr bod yr ymchwiliad hwn yn darparu cyfiawnder i bob goroeswr. Does dim lle i oedi."

 

 

 

 

 

You may also be interested in

Paul

Paul Davies yn galw am weithredu ar TB buchol

Dydd Iau, 16 Gorffennaf, 2026
Mae AS Ceredigion Penfro, Paul Davies, wedi galw unwaith eto am gymryd camau i fynd i'r afael â TB buchol ledled Cymru. Siaradodd Mr Davies mewn dadl ar TB buchol yn y Senedd, gan dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y mae'r clefyd yn parhau i'w chael ar deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig.G

Show only

  • Assembly News
  • Newyddion Cynulliad
  • Newyddion Lleol
  • Westminster News

Paul Davies Ceredigion Penfro

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi diogelu data a phreifatrwydd
Welsh ParliamentTalwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus.

Hyrwyddwyd gan Georgina Bryan am Paul Davies, 20 Stryd Y Farchnad Uchaf, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1QA

Nid yw Senedd Cymru, na Paul Davies yn gyfrifol am gynnwys dolenni neu wefannau allanol

Copyright 2026 Paul Davies . All rights reserved.
Powered by Bluetree