Mis Medi yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Gwaed ac mae'r Aelod o’r Senedd lleol Paul Davies wedi dangos ei gefnogaeth i'r ymgyrch ac wedi mynychu lansiad cynllun gweithredu newydd Blood Cancer UK. Mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r hyn sydd angen ei newid i sicrhau bod pobl â chanser y gwaed yn y DU yn cael y cyfle gorau i oroesi. Yn ôl yr adroddiad, canser y gwaed yw'r 3ydd lladdwr canser mwyaf yn y DU gyda thua 40,000 o bobl yn y DU yn cael diagnosis bob blwyddyn.
Meddai Mr Davies, "Roedd yn fraint cael bod yn bresennol yn lansiad cynllun gweithredu newydd Blood Cancer UK. Mae'r cynllun yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle mae angen gwelliant difrifol gan gynnwys gweithlu'r GIG, mentrau diagnosis cynnar, rhwystrau i ofal ac arferion casglu data gwael. Mae'r data a ddatgelir yn yr adroddiad hefyd yn dangos bod dros filiwn o flynyddoedd posibl o fywyd wedi'u colli i ganser y gwaed dros gyfnod o ddeng mlynedd a bod cyfraddau goroesi’r DU yn disgyn y tu ôl i wledydd tebyg eraill. Mae hynny'n annerbyniol ac mae angen gwneud newidiadau ar unwaith."
Ychwanegodd, "Mae llawer o bobl yn Sir Benfro sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser y gwaed wedi cysylltu â mi ac maen nhw'n galw am fwy o fuddsoddiad a chefnogaeth i'r gymuned canser y gwaed. Mae'n fater sy'n arbennig o agos at fy nghalon oherwydd bu farw fy nhad o ganser y gwaed ac felly rwy'n awyddus i wneud yr hyn alla’i i annog gwelliannau."
Yn y llun, mae Paul Davies, yr Aelod o’r Senedd dros Breseli Sir Benfro, yng nghwmni Dr Ceri Bygrave, Haematolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Myeloma yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd