Ymunodd Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, â'r elusen ymchwil a chymorth flaenllaw Breast Cancer Now mewn digwyddiad gwisgo pinc yn y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i roi hwb i'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio’r fron ac achub mwy o fywydau rhag canser y fron.
Tynnodd digwyddiad ymgyrchu blaenllaw yr elusen sylw at rôl hanfodol sgrinio o ran canfod canser y fron yn gynnar, gyda Nicola Willis-Sheppard o Gasnewydd yn rhannu ei phrofiad o gael diagnosis o ganser y fron pan oedd yn 55 oed yn dilyn mamogram arferol.
Mae deiseb ‘No Time to Waste – Wales' Breast Cancer Now, a lansiwyd ym mis Awst, yn casglu cefnogaeth i annog y llywodraeth i sicrhau bod safon ofynnol sgrinio’r fron o 70% yn cael ei bodloni'n gyson, ysgogi cynnydd tuag at gyflawni'r targed o 80% a lleihau anghydraddoldebau o ran y nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio’r fron ar draws gwahanol gymunedau.
Mae hyn yn dilyn y ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n dangos bod y nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio’r fron wedi gostwng yn is na'r safon ofynnol o 70% yn 2022/23 (69.5%).
Yn hanfodol, mae Breast Cancer Now yn amcangyfrif y gallai cyrraedd 80% fod wedi arwain at sgrinio mwy na 15,800 o fenywod ychwanegol a chanfod 154 o achosion ychwanegol o ganser y fron.
Mae'r adroddiad diweddar 'Cost of Breast Cancer: 2025 Update' gan Demos a Breast Cancer Now hefyd yn amcangyfrif y gallai cyrraedd y targed hwn gynhyrchu tua £8-£9 miliwn mewn arbedion economaidd a £78 miliwn mewn enillion llesiant yn 2025.
Meddai Mr Davies:
"Rydw i bob amser wedi cefnogi gwaith Breast Cancer Now ledled Cymru ac roedd hi’n bleser mynychu eu sesiwn ffotograffau Gwisgo Pinc yn y Senedd unwaith eto."
"Mae menywod yn Sir Benfro yn haeddu'r cyfle gorau posibl o gael diagnosis cynnar o ganser y fron a dyna pam mae'n rhaid cymryd camau i wella'r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio am ganser y fron. Rwy'n annog fy etholwyr i ymuno â mi i gefnogi deiseb Breast Cancer Now a helpu i ledaenu'r neges."
"Does dim amser i'w wastraffu. Po gynted ag y bydd menywod yn cael eu sgrinio, y cynharaf y gallan nhw gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw."
Meddai Claire Rowney, prif weithredwr Breast Cancer Now:
"Rydyn ni mor ddiolchgar i Paul am gefnogi digwyddiad gwisgo pinc heddiw. Gyda'n gilydd, gallwn gynyddu’r nifer sy’n gwneud defnydd o sgrinio'r fron ledled Cymru ac, yn hollbwysig, achub mwy o fywydau rhag canser y fron.
"Mae'n hanfodol bod menywod yn mynychu eu hapwyntiadau sgrinio’r fron pan fyddan nhw’n cael eu gwahodd ac yn archwilio eu bronnau yn rheolaidd a dod i wybod beth sy'n normal iddyn nhw i'w helpu i sylwi ar unrhyw newidiadau newydd neu anarferol i'r fron. Mae canfod yn gynnar yn hanfodol; po gynharaf y bydd canser y fron yn cael ei ddiagnosio, y mwyaf tebygol y bydd y driniaeth yn llwyddiannus.
"Mae eleni yn nodi pen-blwydd ein hymgyrch gwisgo pinc yn 24 oed, ac mae eisoes wedi codi dros £43 miliwn ar gyfer ein hymchwil achub bywydau a'n cymorth sy'n newid bywydau. Ond allwn ni ddim llaesu dwylo. Drwy lofnodi ein deiseb ‘No Time to Waste – Wales' a chymryd rhan yn eich digwyddiad gwisgo pinc eich hun ym mis Hydref, byddwch yn ein helpu i symud yn agosach at ein huchelgais y bydd pawb â chanser y fron yn byw ac yn byw'n dda erbyn 2050."
I lofnodi deiseb Breast Cancer Now, ewch i:
https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246708
Mae eleni yn nodi pen-blwydd ein hymgyrch gwisgo pinc yn 24 oed, ac mae wedi codi dros £43 miliwn ers iddo ddechrau yn 2001. Trwy wisgo pinc ym mis Hydref, gallwch ein helpu i symud ymhellach, yn gyflymach ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser y fron. Cofrestrwch heddiw yn wearitpink.org/SignUp