Mae'r Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies, wedi mynegi ei ddicter am benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys o ysbyty Llwynhelyg.
Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfarfod eithriadol o'r Bwrdd ar 18 a 19 Chwefror 2026 i wneud penderfyniadau am naw gwasanaeth clinigol sydd wedi’u cynnwys yn ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol. Cyn y cyfarfod, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ymgynghoriad ar ei Gynllun Gwasanaethau Clinigol yn haf 2025 ac yna bu cwmni annibynnol, Opinion Research Services (ORS), yn crynhoi barn yr ymgynghoriad ynghyd a chreu adroddiad i lywio cyfarfod y Bwrdd.
Meddai Mr Davies, "Rwy'n hynod grac bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penderfynu symud gwasanaethau o ysbyty Llwynhelyg unwaith eto. Bydd yn rhaid i gleifion nawr deithio ar gyfer gwasanaethau llawfeddygaeth gyffredinol frys ac mae'n enghraifft arall o'r Bwrdd Iechyd yn gwneud fel y mynno, yn groes i ewyllys pobl Sir Benfro."
"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres hir o wasanaethau sydd wedi cael eu tynnu oddi ar yr ysbyty dros y blynyddoedd ac mae'n dystiolaeth bellach bod y Bwrdd Iechyd yn gwthio agenda ganoli sy'n cosbi pobl Sir Benfro. Yn unol â’i arfer, pan ddaw hi’n fater o ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru, mae gweledigaeth y Bwrdd Iechyd yn cynnwys tynnu gwasanaethau oddi ar ysbyty Llwynhelyg.
"Byddaf yn mynd â hyn i'r Senedd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith ac i atal y Bwrdd Iechyd rhag gwneud y penderfyniad trychinebus hwn."