Yn ddiweddar, bu Paul Davies, yr Aelod o'r Senedd lleol, yn arwain dadl yn y Senedd ar bwysigrwydd busnesau bach. Cyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach (dydd Sadwrn 4 Rhagfyr), anogodd Mr Davies Aelodau'r Senedd i gefnogi busnesau bach, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau drwy fynd i'r afael ag ardrethi busnes, gwneud gwelliannau i seilwaith a gwneud arferion caffael yn fwy hygyrch i fusnesau llai o faint.
Dywedodd Mr Davies, "Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi a, chyn Dydd Sadwrn Busnesau Bach, bachais ar y cyfle i arwain dadl yn y Senedd ar sut y gallwn ni i gyd gefnogi'r busnesau ar ein stryd fawr yn well. Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar fusnesau lleol ac mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach a helpu i gadw ein heconomïau lleol yn gystadleuol.”
Ychwanegodd, "Dydd Sadwrn 4 Rhagfyr yw Dydd Sadwrn Busnesau Bach, ac rwy'n annog pawb ledled Sir Benfro i gefnogi busnes lleol. Waeth a ydy hynny'n golygu prynu cynnyrch neu adael adolygiad ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwn ni i gyd gyfrannu at helpu ein busnesau bach i oroesi, felly rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi ein busnesau lleol gwych ac yn cefnogi ein stryd fawr yn lleol.”